Dyma ail antur y Triawd Amser, yn teithio i grombil jyngl y Congo ar drywydd stori i'r papurau newydd am y bwci chwedlonol sy'n celu yn nyffryn N'gomo. Ai ffrwyth dychymyg y brodorion yw'r bwci, neu oes 'na lawer mwy i'r ubain a'r crochlefain echrydus sy'n treiddio o fieri dyfnaf Affrica? Addasiad o lyfr a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn yr Almaeneg gan Alun Ceri Jones.
I gael blas ar rai o dudalennau’r llyfr hwn, cliciwch yma