Blas Cas

Blas Cas

Nofel i ddarllenwyr yn eu harddegau am Dafydd, disgybl 15 oed galluog mewn ysgol Gymraeg yng Nghasnewydd sydd hefyd yn seren ar y cae rygbi.

Cliciwch yma i ddarllen adolygiad

Gwrandewch ar ddarn o'r llyfr

Sgôr y Darllenwyr

Book Rating

Rhowch eich barn am y llyfr hwn:

Rhowch eich barn am y llyfr hwn trwy glicio ar y sêr ar y chwith isod

  • Gwybodaeth am yr awdur
  • Prynwch yn awr

Sylwadau ar y llyfr

Geraint Meek (Bwystfilod Bryn Tawe), 16 Ion 2009

Mwynheais y llyfr yma’n fawr. Er ei fod yn lyfr eithaf bach mewn maint, y mae’n rhoi darlun cyflawn o fywyd anturus bachgen o Gasnewydd. Beth hoffais fwyaf am y llyfr oedd bod Dafydd (y prif gymeriad) yn gwneud pethau mor anghredadwy mewn sefyllfaoedd hyd yn oed yn fwy annhebygol ac yn medru parhau a’i fywyd ar ôl hynny. Rydw i’n credu bod y clawr yn denu’r darllenwr drwy achosi chwilfrydedd. Hoffais hefyd y ffaith bod Dafydd yn teimlo rhwystredigaeth ar y cae chwaraeon, teimlad y bydd llawer o bobl yn gallu uniaethu ato, rwy’n siŵr! Yn fy marn i, nid oes pwyntiau gwael am y llyfr oherwydd y mae wedi cael ei leoli yn y presennol ac y mae’n stori gyffrous. Mwynheais y llyfr anturus yma yn fawr iawn!

Cliciwch yma i gwyno am neges

Bois Bro, 5 Tach 2008

Stori cyffrous, yn hoff o'r pennodau hynny â beiciau modur yn enwedig y bennod lle âi'r beic trwy ffenest y siop!! Er hyn, sawl pennod hirwyntog - gormod o wybodaeth/disgrifiad!! Ond ar y cyfan nofel difyr!

Cliciwch yma i gwyno am neges

rhowch Eich Barn