Lewsyn Lwcus: Traed Wadin

Lewsyn Lwcus: Traed Wadin

Mae'r hen Sioni yn gadael ei ransh i'w ŵyr, Waldo Gellilyfdy, ond dieithryn i'r Gorllewin Gwyllt yw'r bonheddwr Waldo - llo cors â thraed wadin, y math o berson mae'r cowbois caled yn rhoi croeso anghynnes iddo. Pan gyrhaedda Waldo o'r henwlad, mae Lewsyn Lwcus yno wrth law i sicrhau bod y croeso'n un priodol yn wyneb castiau maleisus Jacs Cae Cul. Addasiad o Lucky Luke: Le Pied-tendre gan Dafydd Jones.

I gael blas ar rai o dudalennau’r llyfr hwn, cliciwch yma

Gwrandewch ar ddarn o'r llyfr

Sgôr y Darllenwyr

Book Rating

Rhowch eich barn am y llyfr hwn:

Rhowch eich barn am y llyfr hwn trwy glicio ar y sêr ar y chwith isod

  • Gwybodaeth am yr awdur
  • Prynwch yn awr

Sylwadau ar y llyfr

Clwb Dyffryn Darllen , 26 Ion 2009

Roedd y llyfr yn dda oherwydd roedd yna lot o hiwmor a gyffro.

Clwb Dyffryn Darllen, 9 Rhag 2008

Roedd y rhan fwyaf ohonynt ddim wedi mwynhau y llyfr o gwbl. Dim ond un oedd wedi ei fwynhau. Roedd pawb arall yn ei weld yn ddiflas a anodd ei ddilyn. Siomedig hefyd oedd y stori. Barn rhai oedd bod y dudalen gyntaf yn dda on bod y llyfr yn mynd lawr allt ar ol hynnu. Yn gywir, Clwb Dyffryn Darllen.

Rauly , 18 Hyd 2008

Grêt yw y llyfr hyn! Dwi´di ei ddarllen e pan on´i´n blentyn, yn bortiwgaleg. Mae llyfr hyn yn grêt i ddysgwyr, a dydy e ddim yn anodd!

Tudalen 12

rhowch Eich Barn