Daniel Glyn a Matthew Glyn
Dau frawd o Gaerdydd yw Daniel Glyn a Matthew Glyn – dau frawd doniol iawn hefyd! Mae Daniel yn wyneb cyfarwydd ar y teledu a’r sîn gomedi, yn diddanu plant ac oedolion, ac mae Matthew yn un o aelodau’r grŵp ffync Hanner Pei, a ailffurfiodd i chwarae ambell gig yn 2008. Mae dilyniant i Llyfr Mawr y Pants – sef Llyfr Mawr y Pants 2! – ar y ffordd yn fuan.