Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Blas ar Lyfrau
Darllenwch Darllenwch gan Andrew Fusek Peters (darluniau gan Gini Wade)
Mae Dragon a Mousie yn deffro mewn byd sy’n gyfan gwbl wyn, a’r fforest yr oeddent yn gallu ei gweld neithiwr bellach dan orchudd o eira. Maent yn adeiladu ysgol i fyny i'r awyr ac i'r Ffatri Eira lle mae Cloud Angel yn rhoi anrheg arbennig iawn iddynt.
Darllenwch Bardsey gan Christine Evans a Wolf Marloh
‘It’s a fragment of land at the edge, first landfall after the Irish sea.’
Does dim amau atyniad bywyd ar ynys i Christine Evans. Ers iddi ymweld ag Enlli am y tro cyntaf, dros ddeugain mlynedd yn ôl, mae hi wedi treulio pob haf ar yr ynys, gan gasglu gwybodaeth anhygoel am hanes yr ynys, ei phobl, ei bywyd gwyllt, a’i thywydd. Mae’n gwybod beth yw realiti bywyd cymuned yr ynys, ac mae mewn lle delfrydol i herio’r ddelwedd ramantaidd o le unig, gwag sy’n cael ei gyfleu weithiau mewn cyfryngau eraill. Straeon gwir a geir ganddi, a’r rheini wedi’u hadrodd ar ffurf rhyddiaith atgofus. Ceir hefyd ddewis gwych o gerddi am yr ynys.
I gyd-fynd â geiriau’r awdur ceir lluniau trawiadol gan Wolf Marloh. Gan ddefnyddio ei ddychymyg a’i hiwmor, mae’n cynnig dehongliad gweledol o’r tair thema y mae’r bardd yn eu trafod – ar yr olwg gyntaf; byw ar yr ynys; a gorwelion. Ar y cyd, maent yn cyflwyno dathliad gwych o swyn Ynys Enlli.
Darllenwch Ar Bwys gan Mererid Hopwood (darluniau gan Susie Grindey)
Cyfle i ni gael ein swyno gan eiriau’r Prifardd Mererid Hopwood wrth iddi ein tywys drwy ryfeddodau byd plentyn. O’r babi bach lleiaf a’r ffrindiau mwyaf hyd at y cawr T. Llew Jones, mae lle iddyn nhw i gyd yn y gyfrol hyfryd hon.
Felly beth amdani? Wyt ti’n barod i gamfihafio, i fentro o dan y gwely ac i wrando ar Mam yn cyfri lan i dri? Agor y cloriau a thro’r tudalennau...
Darllenwch Nerth Bôn Braich gan
Sian Eirian Rees Davies, Rhiannon Thomas, Caron Edwards, Gwen Lasarus, Annes Glynn, Eurgain Haf, Janice Jones
Penwythnos Calan Mai. Mae pentref Portmeirion yn llawn bwrlwm, ond ymhlith yr ymwelwyr arferol mae criw o ferched glew â nod arbennig dan sylw. Maen nhw yno i gystadlu am deitl Merch Gryfaf Cymru.
Beth sy’n eu hysgogi i weithio mor galed er mwyn cyrraedd y safon? Pa sgandals sy’n ffrwtian dan yr wyneb ym myd cystadlaethau merched cryfion? Pwy sy’n creu clecs, pwy sy’n y clic, ac a fydd yna unrhyw ieir clwc...?
Mae’r holl atebion i’w cael rhwng cloriau’r nofel gywaith arloesol yma. Saith awdures. Un nod. Stori ddifyr.