08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Themâu Misol
Awst - Campau geiriol
Plant Saesneg
Welsh Sporting Stars
Teitl i bawb o bob oed, yn addas ar gyfer darllenwyr da ac yn llawn gwybodaeth am amrywiaeth o sêr y byd chwaraeon o Gymru. Llawer o dystiolaeth ffotograffig hefyd.
Rewind
Os mai bwlio yw’r gamp, dyma ddwy stori i’ch helpu i ‘ddarllen’ y broblem.
Mae’r gyntaf yn llyfr lluniau i grwpiau sy’n trafod y pwnc o safbwynt plant ifanc mewn modd lliwgar ac ystyriol, wrth i Alison fach daclo’r pethau sy’n ei phoeni yn y byd go iawn, a hynny ar ôl cael gwared ar yr angenfilod dychmygol. Mae’r ail yn ymwneud â diwrnodau gwael cyson arwr y nofel, sef Artie, sydd wastad mewn trafferth yn yr ysgol ac sydd hefyd yn cwrdd â’r bwlis wrth giât yr ysgol. Oni fyddech chi’n hoffi gallu cychwyn eto ar ddyddiau fel hyn? Mae Artie’n canfod ei fod yn gallu gwneud hynny.
Hoppers Series: Alison and the Bully Monsters
Stori am Alison yn cael ei bwlio.
Artworks on Series...: Work
Cyfrol ddarluniadol lliw-llawn sy'n cyfarfod gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ym maes Celf ar gyfer Cyfnod Allweddol 2, yn cynnwys gwerthfawrogiad o waith celf aml-gyfrwng sy'n darlunio pobl wrth eu gwaith, syniadau am weithgareddau yn y dosbarth, gwybodaeth am hanes a thermau celf, ynghyd â manylion am weithiau 14 artist, gyda sylw arbennig i fywyd a gwaith Will Roberts (1907-2000).
Run, Becca, Run!
Find out the problems when you’re the only girl in the school rugby team!
A new title for primary school readers.
Compass Series: Going to the Match
Mae’r gyfrol hon yn y gyfres Compass boblogaidd yn dilyn hynt y cymeriadau wrth iddynt fynd ar drip i gêm rygbi. Unwaith eto, ceir digonedd o gyfleoedd am destun amgylcheddol, a gwir synnwyr o le a digwyddiad.