08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Rhagfyr – Y dyfodol ar ddu a gwyn


Plant Saesneg
Plant Saesneg

Granny Sarah and the Last Red Kite

Granny Sarah and the Last Red Kite

Malachy Doyle

Llyfr lluniau sydd wedi’i ddarlunio’n ofalus ac sy’n trafod y gorffennol, a’r adeg pan fu barcutiaid coch bron iawn â diflannu o Gymru. Mae hefyd yn edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol, pan fydd cadwraeth wedi cyfrannu at adsefydlu’r aderyn brodorol prydferth hwn. Wedi’i ysgrifennu’n hyfryd. CA1/2.

A Nod from Nelson

A Nod from Nelson

Simon Weston Ymdriniaeth ddoniol iawn â llygredd ar lefel leol, a’r ymdrechion sydd eu hangen i osgoi trychinebau posibl – yn yr achos yma, yn iard y dyn llaeth, lle mae gan Ned y ceffyl amser i wneud croesair, a chadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd pan gaiff lori laeth ei gyrru dros gan mawr o olew!

Open Secret

Open Secret

Mary Medlicott

Nofel i ysgogi darllenwyr yn eu harddegau i feddwl. Yn ogystal â materion teuluol, ceir hefyd faterion gwyrdd i’w hystyried yn y stori hon, sydd wedi’i lleoli yng nghefn gwlad baradwysaidd Cymru, lle gall y cyfryngau danio angerdd pobl gydag un pennawd. Byddwch ofalus, chi bobl sy’n cofleidio coed ac yn sgwatio mewn pibellau LPG!

The Cube

The Cube

Paul Manship Efallai nad Tyrone Davies yw peldroediwr gorau’r byd – ond ef sydd wedi’i ddewis i gynrychioli’r Ddaear mewn cystadleuaeth wyddonias gymhleth. Cylchdro’r haul yw’r wobr – ond gwell peidio â sôn am y wobr gysur....