Cymuned Llanelli'n Darllen
Yn rhan o ymgyrch Cymuned Llanelli’n Darllen, gwahoddwyd y cyhoedd i ddewis eu hoff lyfrau Cymraeg a Saesneg o restr fer o 10 teitl. Mae enwau’r llyfrau buddugol wedi’u nodi isod, a bydd nifer o weithgareddau yn seiliedig ar y cyfrolau hyn yn cael eu cynnal yn ystod yr hydref (cewch ragor o fanylion drwy ddilyn y dolenni yn y blychau ar waelod y dudalen hon).
I gael mwy o wybodaeth am y llyfrau buddugol, cliciwch ar y ddolen dan deitl y naill lyfr neu’r llall.
Gallwch hefyd glicio yma i ddysgu mwy am yr holl lyfrau ar y rhestr fer ac am eu hawduron, ynghyd â chlywed detholiadau llafar, darllen adolygiadau ac ysgrifennu eich adolygiad eich hun!
Diolch i bawb fu wrthi’n pleidleisio.