Blas ar Lyfrau

Cip rhwng y cloriau – yma cewch flas ar ambell lyfr gwych!

Cliciwch yma i gael cip ar ddetholiad o lyfrau.

08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol?
Blwyddyn i ddathlu pob math o ddarllen yw’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Ei nod yw ennyn mwy o frwdfrydedd am ddarllen ledled y genedl – a hynny ymhlith plant, teuluoedd ac oedolion fel ei gilydd. Cafodd y Flwyddyn ei lansio’n swyddogol ar 13 Mawrth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.


Beth yw diben y Flwyddyn Darllen Genedlaethol?
Nod y flwyddyn yw ehangu amrywiaeth y gwaith llythrennedd a wneir eisoes gan ysgolion, llyfrgelloedd, canolfannau addysg i oedolion, carchardai, undebau llafur, busnesau a llawer o sefydliadau eraill. Bydd hefyd yn gyfle unigryw i hyrwyddo gallu darllen i newid bywydau unigolion a chymunedau.


Pwy sy’n gyfrifol am y Flwyddyn Darllen Genedlaethol?
Cafodd Cyngor Llyfrau Cymru wahoddiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydlynu’r ymgyrch, gan weithio ar y cyd â phartneriaid a sefydliadau allweddol.


A yw’n ddigwyddiad ar gyfer y DU gyfan?
Mae yna ymgyrch sylweddol yn Lloegr, ond nid yn yr Alban nac yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r ymgyrch yng Nghymru yn un ar wahân ond mae gan Gyngor Llyfrau Cymru gysylltiadau clòs â’r trefnwyr yn Lloegr ac yr ydym yn rhannu syniadau a gwybodaeth ac yn cydweithio fel y bo’n addas.


Pwy yw tîm y Flwyddyn Darllen Genedlaethol?
Delyth Humphreys, Cydlynydd (delyth.humphreys@cllc.org.uk)
Rhian Evans, Swyddog Gweinyddol (rhian.evans@cllc.org.uk)

Am ymholiadau’r wasg cysylltwch ag Alwena Hughes Moakes ( alwena@fbagroup.co.uk)