Cymryd Rhan
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Prif Gynlluniau
Wythnos Llyfr yn Anrheg - 7-12 Gorffennaf 2008
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf! Cymunedau'n Darllen
Mae cymunedau Llanelli, yn Sir Gaerfyrddin, a’r Barri ym Mro Morgannwg wedi eu dewis yn Gymunedau Darllen y Flwyddyn Darllen Genedlaethol, a hynny yn sgil ceisiadau llwyddiannus gan eu gwasanaethau llyfrgell. Bu'r ddwy gymuned yn pleidleisio dros eu hoff lyfrau yn ystod yr haf a bydd y llyfrau mwyaf poblogaidd yn ganolbwynt i lu o ddigwyddiadau yn yr hydref. Clybiau 08
Mae hanner cant o glybiau 08 wedi eu sefydlu ar hyd a lled Cymru a byddant yn cynnal eu cyfarfod cyntaf ganol Medi. Cliciwch ar y cysylltiadau i gael gwybod mwy am beth mae aelodau’r clybiau yn ei wneud, pa lyfrau maent yn eu darllen a pha sêr fydd yn cefnogi’r ymgyrch! |