Cymryd Rhan
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Themâu Misol
Mehefin - Dianc rhwng y cloriau
Oedolion Saesneg
Killer Inside, The
Y pedwerydd llyfr yn y gyfres. Mae'r seicolegydd fforensig Megan yn ymchwilio i nifer uchel o achosion o hunanladdiad yng ngharchar enbyd Balsall Gate, Birmingham. Tra mae hi yno, mae un arall o'r carcharorion yn marw. Mae'r heddlu wedi colli diddordeb am eu bod yn credu taw cyffuriau arweiniodd at y farwolaeth, ond nid yw Megan mor siŵr.
Virtual Strangers
Nofel ddigrif am Charlie Simpson, gwraig yn ei thridegau sy'n credu ei bod wedi darganfod cymar oes - trwy gyfrwng e-bost. Mae ei mam wedi'i dysgu hi i beidio siarad gyda dieithriaid. Ond efallai taw nawr yw'r amser i ddechrau torri rheolau ...Temperance Town
Nofel arw yn portreadu bywydau lliwgar tri chymeriad cymhleth, eu teuluoedd, eu cariadon a'u cydweithwyr yn ardal arw dociau Caerdydd.
Sea Holly
Stori am fywydau pobl sy'n gysylltiedig â merch fach fywiog sy'n mynd ar goll. Adroddir hanes John Vine, athro Saesneg sy'n gadael ei swydd ac yn symud i fyw mewn parc carafannau ar lan y môr. Mae lleoliad yn bwysig iawn i naws y nofel: tref lan môr ddi-raen lle mae pobl ar gyffuriau a mewnfudwyr yn byw ochr yn ochr â'r trigolion dosbarth canol a'r dysgedig.Love and Other Possibilities
Cyfrol o straeon byrion yn cynnig byd o antur gan yr awdur nodedig Lewis Davies. Darluniau, ffilmiau, sêr operâu sebon, prisiau tacsis, gwaith saer, rhyw, ysgrifennu dramâu, llofruddiaeth, llongau, India, trenau, Sri Lanka, Sbaen, arian, Cymru, dadelfennu, meddygaeth, Caerdydd, mwncïod, rhyfel ... maen nhw i gyd yn y gyfrol hon!
Cressida's Bed
Argraffiad clawr meddal o nofel yn portreadu carwriaeth danllyd a thrasig meddyg o Saesnes a milwr Prydeinig o dras Cymreig, wedi ei gosod yn ystod terfysgoedd annibyniaeth India yn 1931-2.Coming Up Roses – Stories of Gardens and Life
Casgliad o straeon gan ferched o Gymru am erddi: beth sy'n digwydd yn y gerddi hynny a'u harwyddocâd i'r awduron. Ceir yma gyfuniad o'r llon a'r lleddf, yn straeon o bell ac agos, ac mae ynddynt i gyd hoffter at blanhigion a phlannu, at hadau a blodau, a gwir ymdeimlad bod tyfu pethau’n gallu newid bywydau.
Colour of a Dog Running Away, The
Nofel bwerus wedi ei gosod yn Barcelona yn adrodd stori garu rhwng gŵr nomadaidd ei arferion a merch soffistigedig ddinesig sy'n cael eu cipio gan sect sinistr i fynyddoedd y Pyrenees.
Big Cats and Kitten Heels
Dilyniant i’w nofel gyntaf, The Floristry Commission. Stori am Rachel, ffrind dda sy'n byw yng nghysgod Marcia ddel, fywiog. Ond ar noson iâr ei ffrind y mae Rachel yn ei chael ei hun ym Mannau Brycheiniog gyda chath wyllt beryglus a Chymro cryf i'w gwarchod - ni allai Marcia, hyd yn oed, gael antur o’r fath!
Bells
Stori ddoniol am gariad ymhlith pobl hŷn. Mae Jack (sy'n ddawnsiwr gwerin) yn syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad un penwythnos. Yn y cyfamser y mae ei wraig, Fay, yn dechrau ymserchu yn un o ffrindiau ei mab. A fydd eu priodas yn gallu gwrthsefyll atyniad cariadon newydd a chyffrous?Amber Knight, The
Nofel ias a chyffro sy'n stori ac iddi sawl haen ac sy’n ymestyn dros wyth canrif mewn lleoliadau megis Almaen a Phrwsia'r oesoedd canol a Gwlad Pwyl ac UDA yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n troi o gwmpas chwedl y Marchog Ambr - crair a fu'n gyfrifol am ysbrydoli cenedlaethau o bobl tan i'r Natsïaid ei ddwyn.