Cymryd Rhan
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Themâu Misol
Gorffennaf – Mydr ac odl
Oedolion Saesneg
Zoo Father, The
Casgliad o 47 o gerddi Pascale Petit yn adlewyrchu perthynas boenus y bardd a'i thad sy'n wynebu marwolaeth, ynghyd â'r gyfres ‘The Vineyard’ a ysbrydolwyd gan fam y bardd. Cyhoeddwyd yn gyntaf ym Medi 2001.
Growth Rings
Casgliad o farddoniaeth Christine Evans, brodor o swydd Efrog sydd wedi ymgartrefu ym Mhen Llŷn. Dyma'i phumed casgliad, a cheir yn y gyfrol hon dros ddeugain o gerddi yn y mesurau rhydd. Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.Kink and Particle
Dyma gasgliad cyntaf Tiffany Atkinson o gerddi, ac mae’n cynnig safbwyntiau amrywiol, yn enwedig barn gwraig ar drothwy 30 oed. Mae'r arddull yn un hamddenol a chyffredin, ond eto'n grefftus ac yn graff.
Fossil-Box, The
Casgliad o gerddi a ysbrydolwyd gan olion - olion patrymau, iaith a chof. Y mae elfen gref o'r syniad o wreiddiau a pherthyn yn treiddio drwy'r cerddi, ac mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar y tirlun a'r morlun o gwmpas cartref yr awdur yng Nghymru.& the concept of zero
Cyfrol o gerddi sy'n ymwneud â themâu a phynciau amrywiol. Gwelir yn y casgliad lais pendant, dilyniant sionc o syniadau a delweddau, sylwebu craff, a defnydd unigryw o iaith.
Trouble in Heaven
Casgliad o gerddi gan gyn-olygydd Planet.
Singing in Chains: Listening to Welsh Verse
Astudiaeth o ddirgelion crefft farddol y gynghanedd, a baratowyd ar gyfer y rhai nad ydynt yn medru'r Gymraeg, ynghyd â CD yn cyflwyno darlleniadau o'r dyfyniadau a drafodir yn y gyfrol.
Footprints
Casgliad o 13 stori fer amrywiol yn adlewyrchu dylanwad hudol ac ingol lleoliad neu ddigwyddiad arbennig ar fywydau'r prif gymeriadau.
Going Gentle
Casgliad o gerddi personol i ysgogi myfyrdod a dehongli gan fardd o Ynys Môn.
Skirrid Hill
Cyfrol o gerddi synhwyrus iawn ar themâu gwahanu ac ymrannu; yn cynnwys cerddi ar ffiniau daearyddol, y gwahanu rhwng y byw a'r meirw, y symudiad o blentyndod i fod yn oedolyn, diwedd perthynas, ac ysgaru. Y mae tyndra'r cerddi yn deillio o ddull y bardd o gymharu'r ddwy stâd ranedig a drafodir.Letter to Patience
Cerdd hir wedi'i gosod yn Patience's Parlour, bar yng ngogledd Nigeria, yn 1993 adeg gwrthdaro gwleidyddol, yw'r gyfrol hon. Ceir yma olwg ar anawsterau bywyd ac ymgais dyn i chwilio am ystyr byw a bod mewn cyfnodau anodd.