Cymryd Rhan
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Themâu Misol
Awst - Campau geiriol
Oedolion Cymraeg
Y Byd Mawr Crwn
Cyfrol ddifyr o argraffiadau lliwgar a byrlymus darlledwr a chefnogwr pêl-droed brwd sydd wedi teithio'n helaeth i sawl gwlad i wylio gêmau pêl-droed ac i gefnogi tîm cenedlaethol Cymru. 35 ffotograff du-a-gwyn.
Straeon o'r Strade
Dathliad difyr iawn o draddodiad cyfoethog Clwb Rygbi Llanelli o 1888 hyd 2004, yn cynnwys straeon am gêmau cofiadwy a chwaraewyd ar Barc y Strade, yn gêmau yn erbyn timau rhyngwladol a gêmau cystadlaethau cwpan a chynghrair ynghyd â hanesion am gymeriadau nodedig y clwb. 40 llun lliw a 66 llun du-a-gwyn. Mae fersiwn Saesneg ar gael: 1843235706.
Pwll, Pêl a Phulpud
Hunangofiant y Parch. Elwyn Jenkins, gweinidog yn ardal Llanbedr Pont Steffan. Ynddo mae'n adrodd ei hanes, o gyfnod cynnar pan oedd yn blentyn yn ardal Cross Hands, ei gyfnod yn gweithio dan ddaear mewn pwll glo, ei gampau ar y cae rygbi pan chwaraeodd dros Gymru yn erbyn y Llewod Prydeinig, a'i gyfnod fel gweinidog yn Nyffryn Aman, Aberystwyth, a maes o law yn ardal Llanbed.
Sach Winwns, Y
Nofel gyntaf, fywiog, llawn hiwmor gan y dyn o ardal Cwm-ann. Stori yw am helyntion difyr tîm pêl-droed yn ne-orllewin Cymru sy'n hollol anobeithiol ac yn wynebu crasfa ar Gae Coedmor. Y mae'r ateb yn annisgwyl a braidd yn rhyfedd, sy'n arwain at ddewiniaeth Affrica yn tanio yn y fro.
Cyfres y Cewri: 31. Y Crwt o'r Waun
Hunangofiant Gareth Edwards, un o gewri'r byd rygbi yn ystod yr 1960au a'r 1970au ac nid yw ei statws chwedlonol wedi lleihau ers hynny. Dylai'r llyfr apelio at ystod eang o ddarllenwyr, o'r rhai a oedd o gwmpas i weld ei orchestion ar y cae yn ystod oes aur rygbi Cymru, i'r to ieuengach fydd yn awyddus i ddysgu mwy am ei hanes
Stephen Jones - O Clermont i Nantes
Atgofion a bywyd maswr a chapten Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - o chwarae i Clermont Avergne yn Ffrainc, i ddychwelyd i'r Strade ac yna arwain Cymru i'r Cwpan Byd. Cynhwysir pennod ar ymgyrch Cymru yn ystod Cwpan y Byd.