08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Awst - Campau geiriol


Oedolion Saesneg
Oedolion Saesneg

Occupation: Prizefighter: Freddie Welsh Story, The

Occupation: Prizefighter: Freddie Welsh Story, The

Andrew Gallimore

Bywgraffiad y paffiwr Freddie Welsh, un o'r paffwyr gorau erioed yn ei bwysau; ar ôl bywyd o ymladd garw, arian mawr, a throi mewn cylchoedd dyrchafedig, bu farw'n ifanc ac yn dlawd mewn ystafell salw yn Hell's Kitchen.

Inside Out Series: Welsh Sporting Stars

Inside Out Series: Welsh Sporting Stars

Alun Wyn Bevan

Teitl i bawb o bob oed, yn addas ar gyfer darllenwyr da ac yn llawn gwybodaeth am amrywiaeth o sêr y byd chwaraeon o Gymru. Llawer o dystiolaeth ffotograffig hefyd.

Glamorgan: The Glory Years 1993-2002

Glamorgan: The Glory Years 1993-2002

Andrew Hignell

Dathliad darluniadol o lwyddiannau Clwb Criced Morgannwg, 1993-2002, yn cynnwys 207 ffotograff a 3 cartŵn du-a-gwyn gyda thestun diddorol ac ystadegau am gêmau cofiadwy a chwaraewyr disglair.

A Fan's Guide: Football Grounds - England and Wales

A Fan's Guide: Football Grounds - England and Wales

Duncan Adams

Llyfr yn disgrifio meysydd pêl-droed ac yn cynnwys stôr o wybodaeth ar y pwnc. Ceir tair tudalen yr un i bob tîm yn yr uwch-gynghrair, a dwy dudalen i'r timau eraill. Cynhwysir gwybodaeth am fanylion cyswllt, lleoliad, parcio a chylchgronau cefnogwyr ayb.

Stradey Stories

Stradey Stories

Alun Wyn Bevan

Dathliad difyr iawn o draddodiad cyfoethog Clwb Rygbi Llanelli o 1888 hyd 2004, yn cynnwys straeon am gêmau cofiadwy a chwaraewyd ar Barc y Strade, yn gêmau yn erbyn timau rhyngwladol a gêmau cystadlaethau cwpan a chynghrair ynghyd â hanesion am gymeriadau nodedig y clwb. 40 llun lliw a 66 llun du-a-gwyn.

Golf Wales - Where to Play, Eat and Stay

Golf Wales - Where to Play, Eat and Stay

John Hopkins and Colin Pressdee

Cyfeirlyfr yn nodi rhai o gyrsiau golff gorau Cymru, ynghyd â llefydd i fwyta ac aros. Yn cynnwys lluniau godidog o'r cyrsiau a'r wlad o’u cwmpas. Cyngor hefyd am 12 cwrs pencampwriaeth: Porthcawl, Royal St David's, Celtic Manor, Conwy, Caergybi, Nefyn, Aberdyfi, Dinbych-y-Pysgod, Machynys, Ashburnham, Y Pîl a Cynffig a Southerndown.

Wales: Complete Who's Who of Footballers Since 1946, The

Wales: Complete Who's Who of Footballers Since 1946, The

Dean P. Hayes

Arweinlyfr darluniadol diddorol a chynhwysfawr i’r enwau amlwg yng Nghymru ym myd pêl-droed, yn cynnwys gwybodaeth hanfodol am oddeutu 260 o chwaraewyr a gynrychiolodd eu gwlad er 1946, gyda manylion eu safleoedd ac ystadegau chwarae; rhagair gan Terry Yorath. 90 ffotograff du-a-gwyn.

St Helen's Stories

St Helen's Stories

Alun Wyn Bevan

Dathliad o dros ganrif o chwaraeon ar faes Sain Helen, Abertawe, sydd wedi bod yn gartref i Glwb Criced Morgannwg a chlybiau rygbi a phêl-droed Abertawe, ymysg clybiau eraill. Ceir nifer o luniau lliw a rhai du-a-gwyn.

Library of Wales: So Long Hector Bebb

Library of Wales: So Long Hector Bebb

Ron Berry

Y gyfrol gyntaf yng nghyfres nodedig Library of Wales. Hanes paffiwr o Gymer yn ne Cymru sydd yn barod i ddechrau ymladd eto; y mae Abe yn cyflyru Hector i fod yn beiriant ymladd di-ildio; mae'n barod i wynebu'r byd, ond ym mhle y mae'r peryglon gwirioneddol? Fe'i hysgrifennwyd yn arddull noeth a garw Ron Berry.

Climbing Essays, The

Climbing Essays, The

Jim Perrin

Casgliad cynhwysfawr o ysgrifau Jim Perrin dros gyfnod o 40 mlynedd o ddringo. Ceir yma ddeunydd newydd nas cyhoeddwyd o'r blaen, yn ogystal â rhagymadrodd sylweddol sy'n cynnwys atgofion yr awdur. Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.

Wales Rugby Miscellany, The

Wales Rugby Miscellany, The

Rob Cole, Stuart Farmer

Llyfr am orffennol, presennol a dyfodol rygbi Cymreig. Cynhwysir ystadegau, straeon, dyfyniadau, rhestri ac ambell i stori wirion o archif hanes undeb rygbi Cymru. Gyda rhagair gan Gareth Edwards.

Library of Wales: Sport – Library of Wales Anthology

Library of Wales: Sport – Library of Wales Anthology

Edited by Gareth Williams

Llyfr yn trafod chwaraeon a'r llenyddiaeth gyfoethog a chynhwysfawr sy'n gysylltiedig â'r pwnc. Mae'r casgliad gwreiddiol hwn yn dwyn ynghyd ddeunydd ysgrifenedig ar chwaraeon gan awduron nodedig.