08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Awst - Campau geiriol


Plant Cymraeg
Plant Cymraeg

Cyfres Lleisiau: Yn y Canol

Cyfres Lleisiau: Yn y Canol

Robat Powell

Un o deitlau cyfres o 20 o nofelau byrion, cyffrous a deniadol i ddarllenwyr yn eu harddegau. Dau chwaraewr rygbi gwych yw Leon a Matthew, ond maen nhw'n casáu ei gilydd. Pa un fydd yn ennill cap i Gymru? Mae'r ddau yn hoffi Megan Mai hefyd, ond bydd yn rhaid i Megan ddewis un ohonynt yn y diwedd. Addas ar gyfer darllen er pleser a gwaith ymateb i ddarllen.

Ffeithiau Rygbi 2: 100 o Ffeithiau Rygbi

Ffeithiau Rygbi 2: 100 o Ffeithiau Rygbi

Gary Pritchard

Cant arall o ffeithiau rygbi a'r diweddaraf yn y gyfres o lyfrau poced ar thema rygbi a phêl-droed gan Gary Pritchard. Cartwnau gan Philip Prendergast.

Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu

Cyfres Pen Dafad: Ceri Grafu

Bethan Gwanas

Nofel gyfoes am ferch yn ei harddegau sy'n teimlo bod pawb a phopeth yn ei herbyn, a hynny'n bennaf am na chaiff chwarae i dîm pêl-droed yr ysgol am mai merch ydyw, ond a gaiff ei hannog i ddyfalbarhau gan gymdoges, gyda chanlyniadau ardderchog; i ddarllenwyr 11-13 oed. (ACCAC)

Cyfres Whap!: O Ongl Arall

Cyfres Whap!: O Ongl Arall

Martyn Geraint

Nofel hwyliog yn llawn antur yn dilyn hynt a helynt reffari tim pêl-droed.

Cyfres ar Wib: Ffion a'r Tim Rygbi

Cyfres ar Wib: Ffion a'r Tim Rygbi

Elin Meek

Merch mewn tîm rygbi! Ni allai'r bechgyn goelio'r peth pan ddywedodd y Prifathro wrthynt y byddai Ffion Huws yn chwarae yn eu tîm nhw. Doedd hi erioed wedi cydio mewn pêl rygbi o'r blaen, heb sôn am chwarae gêm! Pa obaith fyddai ganddynt i guro bechgyn ysgol y Waun nawr? Ond ar y cae, mae'n stori wahanol! Addas i blant 7-9 oed. Cyhoedwyd gyntaf yn 2005.

Mewnwr a Maswr: 7. Ysbryd y Maswr

Mewnwr a Maswr: 7. Ysbryd y Maswr

Gareth William Jones

Nofel am efeilliaid a'u hanturiaethau wrth chwarae rygbi. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.

Dim Eto, Jac!

Dim Eto, Jac!

Steven P. Jones

Stori arall am Jac Davies, y bachgen bach sy'n gwirioni ar bêl-droed. Mae Jac yn hoffi chwarae pêl-droed ond, yn anffodus, mae'r bêl yn glanio'n aml yng ngwely blodau Mr Parri drws nesaf!

Hwyl Gŵyl 3 - Dathlu Rygbi Cymru

Hwyl Gŵyl 3 - Dathlu Rygbi Cymru

Elin Meek

Llyfr am draddodiad, hanes, campau ac arwyr rygbi Cymru.

Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau

Dewi, Dwpsi a'r Dreigiau

Dewi (Pws) Morris, Rhiannon Roberts

Stori ddoniol a byrlymus ar thema rygbi. Mae'r holl ddreigiau coch wedi diflannu oddi ar faneri Cymru yn Stadiwm y Mileniwm. Rhaid eu darganfod cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr. Addas i ddarllenwyr 7-9 oed.