08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Medi – Fy llyfrau a fi


Plant Saesneg
Plant Saesneg

Stories of Welsh Life - Right Answer, The

Stories of Welsh Life - Right Answer, The

Siân Lewis

O’r gyfres Stories of Welsh Life y daw’r hanes anarferol hwn am ymfudwyr o Gymru yn chwilio am fywyd gwell ym Mhatagonia. Agwedd newydd ar thema hunaniaeth – a chyflwyniad i ran ddifyr iawn o hanes Cymru. Addas i ddarllenwyr annibynnol.

Cadi - Here Comes Cadi

Cadi - Here Comes Cadi

Viv Sayer

Yn yr achos hwn, gallech droi’n gath! Mae Cadi’n byw mewn pentref ger y môr, ac ar ei phrowlan dyddiol mae’n cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl gyffredin sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Testun syml (gyda rhai geiriau Cymraeg) a geir yma, felly mae’n ddewis da i ddarllenwyr ifanc.

Gift for Saint David's Day, A

Gift for Saint David's Day, A

various

Casgliad o straeon, dramâu a cherddi i ddathlu bywyd ein nawddsant. Llawer o ddeongliadau newydd o hen straeon, gyda chyfoeth o ddarluniau cyffrous gan artistiaid dawnus o Gymru. Anrheg o lyfr, yn wir, gyda siaced lwch go iawn hefyd!

We Children of Wales

We Children of Wales

Ann Saer

Dathliad o fywydau plant o bob rhan o Gymru, gyda gwybodaeth fywgraffyddol, cyfeiriadaeth ddaearyddol a diwylliannol, a chasgliad o ffotograffau trawiadol o fywyd teuluol a nodweddion plentyndod.

Weather Dress, The

Weather Dress, The

Catherine Fisher

Chi yw eich dillad yn y llyfr lluniau anarferol hwn! Ar ôl canfod rhywbeth ar ddamwain ar stondin ddillad ail-law yng Nghas-gwent, mae bywyd yr arwres ifanc yn newid yn llwyr wrth iddi ddod wyneb yn wyneb â phwerau da a drwg.

Compass Series - Hello Gary Longlegs!

Compass Series - Hello Gary Longlegs!

Siân Lewis

Lleoliad y gyfrol hon yn y gyfres ddaearyddol yw Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen. Mae’n lliwgar, yn swnllyd ac mae’n sicr yn rhoi blas ar yr hyn sy’n digwydd mewn Eisteddfod!

Artworks On...Series: Communication

Artworks On...Series: Communication

Sue Balsom, Jo Dahn, Justine Baldwin

Rhagor o ddeongliadau o amrywiaeth eang o bynciau artistig sy’n unigryw i Gymru. Llond gwlad o syniadau gwych am weithgareddau cysylltiedig.

Move Over, Rover

Move Over, Rover

Jac Jones

Mae pawb angen cydnabyddiaeth – a bod yn falch o bwy ydyn nhw. Mae’n cymryd sbel i Rover y ci ddarganfod hyn, ond mae’n deall yn y pen draw, fel y gwna ei berchennog, a’r darllenydd hefyd! Lluniau lliwgar yn null hwyliog Jac Jones.

Welsh and Proud of It

Welsh and Proud of It

Various

Casgliad o storïau byrion ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau – mae pob un yn ymwneud â byw yng Nghymru, ac yn profi bod ein synnwyr o hunaniaeth yn gyfoethog ac yn amrywiol, lle bynnag yr ydym yn byw. Ac mae’n mynd i’r afael ag ystrydebau!

Pont Hoppers - Barti and Bel Whizz Around Wales

Pont Hoppers - Barti and Bel Whizz Around Wales

Suzanne Carpenter

Mae’r ddau gymeriad clwt yn ymweld â llond gwlad o lefydd ‘go iawn’ yng Nghymru. Mae ffotograffau o leoliadau enwog yn gefndir i’w hodlau a’u dillad gwirion. Trysor o lyfr ar gyfer y cyfnod Sylfaen.