08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Medi – Fy llyfrau a fi


Oedolion Saesneg
Oedolion Saesneg

Library of Wales: Border Country

Library of Wales: Border Country

Raymond Williams

Yr ail gyfrol yng nghyfres nodedig Library of Wales. Pan gaiff y gŵr rheilffordd Harry Price strôc sydyn daw ei fab, Matthew, sy'n ddarlithydd yn Llundain, nôl i Glynmawr ar y gororau. Wrth i Matthew a Harry ymgodymu â'u hatgofion o newidiadau cymdeithasol a phersonol, caiff cwlwm o gariad agos ei greu rhwng y tad a'r mab.

Honno Classics: View Across the Valley, A - Short Stories by Women from Wales C.1850-1950

Honno Classics: View Across the Valley, A - Short Stories by Women from Wales C.1850-1950

Jane Aaron

Casgliad amrywiol a diddorol o 20 stori fer gan ferched o Gymru, megis Brenda Chamberlain, Margiad Evans, Allen Raine ac eraill nas gwelir eu gwaith mewn print yn aml, yn ymestyn dros y cyfnod 1850-1950.

Honno Classics: Stranger Within the Gates - A Collection of Short Stories

Honno Classics: Stranger Within the Gates - A Collection of Short Stories

Bertha Thomas

Casgliad o straeon byrion craff a chlyfar sy'n ymwneud â ffeministiaeth, 'Benywod Newydd' y 1890au, ynghyd â straeon sy'n bwrw golwg ar wrthdaro personol ac emosiynol yn ymwneud â materion hil, hunaniaeth genedlaethol a grwpiau cymdeithasol gwahanol.

Seren Classics: There was a Young Man from Cardiff

Seren Classics: There was a Young Man from Cardiff

Dannie Abse

Ffuglen hunangofiannol yn dathlu byd rhyfeddol y dychymyg, sef nofel sy'n gasgliad o ddeunaw stori fer yn archwilio natur gymhleth twyll a gwirionedd.

My People

My People

Caradoc Evans

Argraffiad newydd o storïau enwog Caradoc Evans am fywyd yn ardal Rhydlewis. Cyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1915, a chyhoeddwyd yr argraffiad hwn gyntaf ym 1987.

Library of Wales: The Dark Philosophers

Library of Wales: The Dark Philosophers

Gwyn Thomas

Y drydedd gyfrol yng nghyfres nodedig Library of Wales. Tair nofel fer yn cynnwys portread iasol o losgach, llofruddiaeth a hiwmor tywyll. Ceir themâu fel grym rhywiol a theuluol, a marwolaeth. Y mae'r stori olaf 'The Dark Philosophers' yn adrodd hanes tri dyn sy'n cyfarfod mewn caffi Eidaleg i drafod trasiedi y maent hwy wedi ei dyfeisio am ddial a dynladdiad.

Library of Wales: Country Dance

Library of Wales: Country Dance

Margiad Evans

Y bumed gyfrol yng nghyfres nodedig Library of Wales. Nofel sy'n adrodd stori am serch angerddol, llofruddiaeth a gwrthdaro ym mywyd Ann Goodman. Mae hi hefyd yn brwydro yn erbyn ei deuoliaeth Gymreig a Seisnig o ran hil. Mae stori garu glasurol yn datblygu ar gefndir o fywyd gwledig sydd ymhell o fod yn ddelfrydol.

Library of Wales - Withered Root, The

Library of Wales - Withered Root, The

Rhys Davies

Nofel yn adrodd hanes bywyd cythryblus Reuben Daniels - gŵr ifanc a fagwyd yng nghymoedd de Cymru yn y traddodiad anghydffurfiol. Mae'n ddyn ifanc sy'n llawn bywyd a nwyd, ond eto'n ansicr o ystyr bywyd. Y mae'r ysfa ynddo i hyrwyddo'r efengyl, ond yn ei iachawdwriaeth bersonol mae gwrthdaro rhwng y corfforol a'r ysbrydol, ac mae'i siwrnai yn her i'w feddwl, ei gorff a'i enaid.

In This Place - The National Library of Wales

In This Place - The National Library of Wales

Trevor Fishlock

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref cof y genedl. Mae ei silffoedd a'i muriau a'i chelloedd a'i chyfrifiaduron yn gofalu am y trysorau sy'n adrodd ein hanes ni, o'r dyddiau cynharaf un hyd at heddiw. Wrth graffu drwy ei chasgliadau gwerthfawr, cawn wybod pwy oedden ni a dod i ddeall pwy ydyn ni.

Wales, Half Welsh

Wales, Half Welsh

John Williams

A diverse, contemporary collection of 18 short stories by a dozen writers who all have Welsh connections either by birth or by having lived in Wales at one time or other, reflecting the sweet and not-so-sweet experiences of life. 5 black-and-white illustrations.

Toy Epic, A

Toy Epic, A

Emyr Humphreys

A novel about the friendship of three boys from differing backgrounds growing up in north-east Wales in the 1930s, together with an introduction by M. Wynn Thomas, textual notes and a fragment from an earlier version of the novel. First published in 1958.

Sugar and Slate

Sugar and Slate

Charlotte Williams

Stori hunangofiannol llawn cynhesrwydd a synwyrusrwydd am ferch o dras cymysg Cymreig ac Affricanaidd, y bu ei magwraeth anarferol mewn dwy wlad ynghyd â'i theithiau diweddarach i'r Caribî yn ymchwil barhaus am ei hunaniaeth.