Cymryd Rhan
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Themâu Misol
Hydref – Ar lafar
Plant Cymraeg
Dianc (CD)
Stori iasoer ar lafar am yr efeilliaid Sara a Gwion yn gorchfygu grymoedd tywyll sy'n effeithio ar fywydau'r pentrefwyr lleol wedi i wal cylch cerrig hynafol gael ei fylchu; i wrandawyr 9-11 oed.
Storïau Pum Munud (CD)
Casgliad o storïau byr, bachog o bob rhan o'r byd sy'n cael eu hadrodd o fewn pum munud, yn cynnwys storïau am dylwyth teg, anifeiliaid dof, brenin uchelgeisiol a thrempyn clyfar.
Lleuad yn Olau - Chwedlau Traddodiadol o Gymru (Cryno-Ddisg)
Pecyn o ddau gryno-ddisg yn cyflwyno'r awdur plant poblogaidd T. Llew Jones yn adrodd y chwedlau Cymreig traddodiadol a geir yn ei gyfrol Lleuad yn Olau. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Nhachwedd 2003.
Llinyn Trôns
Talfyriad llafar o nofel gyfoes ddifyr i ieuenctid gan nofelwraig boblogaidd yn adrodd hanes gwrthdaro a chyfeillgarwch, methiannau a llwyddiannau criw brith o fyfyrwyr TGAU wrth iddynt ddysgu cydweithio ar gwrs mewn canolfan awyr agored. Owen Arwyn sy'n darllen.
Cês Hana
Addasiad llafar o'r stori ynghylch cês sy'n cyrraedd canolfan addysgol yr Holocost yn Tokyo. Yr oedd yn perthyn i blentyn amddifad o'r enw Hana Brady. Pwy oedd Hana? Beth ddigwyddodd iddi? Stori wir am ddau blentyn Iddewig o Siecoslofacia, a'r hyn ddigwyddodd iddynt pan gafodd eu gwlad ei goresgyn gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhian Morgan sy'n darllen.
Aaaaaaaaaa! Corryn
Stori hwyliog i’w hadrodd yn uchel am gorryn bach sydd eisiau byw gyda theulu ac sy’n mynd allan o’i ffordd i ddangos sut y gallai fod yn anifail anwes perffaith. Addas i: 4+.
Dim Gwely heb Tedi
Lle mae tedi wedi mynd tybed? Mae’n amser gwely a rhaid chwilio dros y tŷ i ddod o hyd iddo. Llyfr codi llabedi perffaith i’w rannu gydag un plentyn neu grŵp o blant. Addas i: 2+.