08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Tachwedd – Sgriptiau’r sgrîn


Oedolion Cymraeg
Oedolion Cymraeg

Llafur Cariad

Llafur Cariad

Gareth Miles

Nofel rymus am gariad a thorcalon, gwrthdaro a llwgrwobrwyo gwleidyddol yng Nghymru yn ystod yr 1980au a'r 1990au, yn seiliedig ar y gyfres deledu Llafur Cariad ar S4C.

Y Stafell Ddirgel

Y Stafell Ddirgel

Marion Eames

Argraffiad newydd o nofel boblogaidd a gyhoeddwyd gyntaf ym 1969, yn portreadu ymdrechion Crynwyr ardal Dolgellau i addoli yn ôl eu dymuniad, a'u penderfyniad i hwylio i'r Amerig a bywyd newydd.

O Drelew i Dre-fach

O Drelew i Dre-fach

Marged Lloyd Jones

Argraffiad o 'Nel Fach y Bwcs' a'r dilyniant 'Ffarwél Archentina' gan Marged Lloyd Jones, yn cynnwys lluniau o Batagonia. Ceir hanes y ferch a hwyliodd i'r Wladfa ym 1870 ac a dreuliodd ei blynyddoedd cynnar yno, ac yn y diweddariad hwn ceir cyfle o'r newydd i olrhain yr hanes rhyfeddol hwn.

Y Graith

Y Graith

Elena Puw Morgan

Diweddariad gan ei merch, Catrin Puw Davies, o'r nofel a enillodd i'r awdures Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938; nofel yw hi am ferch ifanc ar droad y ganrif yn ymgodymu ag amgylchiadau o dlodi a chreulondeb teuluol.

Blwyddyn Fawr Glyn Wise

Blwyddyn Fawr Glyn Wise

Glyn Wise

Cyfrol sy'n adrodd hanes Glyn Wise, bachgen 18 oed o Flaenau Ffestiniog a gafodd ei dderbyn i fod yn ymgeisydd ar 'Big Brother' yn 2006. Caiff ei gofio am fod yn ddiddanwr naturiol, yn gogydd anobeithiol ac yn Gymro balch a ddaeth â'r iaith Gymraeg i sylw cynulleidfa gwbl newydd. Dyma fwrw golwg ar y modd y gwireddodd ei freuddwyd a chael enwogrwydd.

Amdani!

Amdani!

Bethan Evans

Nofel fywiog, hwyliog yn adrodd hanes tîm rygbi merched Tre-ddôl. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Gorffennaf 1997.

Martha, Jac a Sianco

Martha, Jac a Sianco

Caryl Lewis

Nofel gref yn adrodd hanes dau frawd a chwaer oedrannus sy'n cael eu carcharu gan amgylchiadau teuluol, a chan galedi bywyd ar fferm yng nghefn gwlad de-orllewin Cymru, gan awdures ifanc ddawnus. Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Nhachwedd 2004.