08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Tachwedd – Sgriptiau’r sgrîn


Plant Saesneg
Plant Saesneg

Ogi and the Rugby Match

Ogi and the Rugby Match

Ruth Morgan

Band y Bobinogi sy'n canu ar ddechrau'r gêm rygbi rhwng Abernog a Bobipandy. Stori am y cymeriadau hwyliog Nib, Bobin ac Ogi wedi ei seilio ar y gyfres deledu boblogaidd.

High Fliers

High Fliers

Siân Lewis Cafodd y nofel chwim hon i ddisgyblion cynradd hŷn ei chomisiynu’n arbennig ar gyfer y Flwyddyn Darllen Genedlaethol gyntaf. Mae wedi’i lleoli yn Ninbych-y- pysgod a Saundersfoot, ac mae hefyd yn cynnwys set ffilm a hanesion sêr ifanc sy’n rhan o’r dirgelwch wrth i griw o blant geisio ail-greu peiriant hedfan cynnar.

Gipsy Fires

Gipsy Fires

T. Llew Jones a Carol Byrne

Clasur o stori am fywyd y Romani a’r gwrthdaro rhwng diwylliannau yng Nghymru’r gorffennol. Ceisiwch ganfod copi o’r ffilm deledu sy’n seiliedig ar y llyfr – mae’n werth ei gweld.

Playing Twm

Playing Twm

Ruth Morgan

Efallai y bydd y gyfrol hon yn peri tipyn o siom i’r rhai sy’n breuddwydio am fywyd moethus Hollywood. Nofel chwim i ddarllenwyr hŷn, wedi’i lleoli yng nghanol sir Gaerfyrddin, lle ceir digonedd o chwedlau am Twm Siôn Cati. Midge yw’r arwres, ac mae hi’n dysgu nad yw sêr ffilm rhyngwladol fel Dylan Blaine yn cyd-fynd â’r disgwyliadau bob tro.