Cymryd Rhan
08
Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!
Cymunedau’n Darllen
Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.
Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.
Wythnos Llyfr yn Anrheg
Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!
Themâu Misol
Tachwedd – Sgriptiau’r sgrîn
Oedolion Saesneg
Selected Work, '95-'98
Sgriptiau llwyfan Song from a Forgotten City a Gas Station Angel a sgript ffilmio House of America gan Ed Thomas, yn adlewyrchu agweddau garw a thelynegol bywyd, gyda thraethodau beirniadol gan Marc Evans a Jeni Williams a sgwrs gyda David Adams. 18 llun du-a-gwyn.
Border Lines: Dennis Potter
Astudiaeth arloesol o waith y dramodydd teledu adnabyddus sy'n dadansoddi rhai o'i brif ddramâu ac yn pwyso a mesur ei gyfraniad i ddiwylliant cyfoes Prydain.
One Man, One Voice
Casgliad o bum monolog gan ddramodwyr Cymreig yn portreadu pum cymeriad yn ymdrechu i ddeall eu bywydau cymhleth a chanfod eu hunaniaeth.
Richard Burton - So Much, so Little
Astudiaeth o Richard Burton sy'n dangos dylanwad ei Gymreictod ar ei gymeriad a'i yrfa ac yn adolygu ei waith fel un o sêr y ffilm a'r llwyfan. Ffotograffau du-a-gwyn.
How Green Was My Valley
Adargraffiad o nofel glasurol yn cyflwyno portread atgofus o galedi a chynhesrwydd bywyd yng nghymunedau glofaol de Cymru ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Wales on Screen
Asesiad cynhwysfawr ac aml-weddog o gyflwr presennol y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru, ei berthnasedd i fywydau pobl Cymru, lle'r ferch a'r iaith Gymraeg, llwyddiant y maes animeiddio a dyfodol teledu digidol, yn cynnwys deg pennod gan ddeuddeg o gyfranwyr. 16 llun du-a-gwyn.
The Web of Belonging
Nofel am fywyd dedwydd gŵr a gwraig ifanc sy'n byw yn yr Amwythig, cyn i'w perthnasau oedrannus ddod i aros. Nofel gan awdur poblogaidd, ac mae'r gwaith bellach wedi'i droi yn ffilm i ITV.
White Powder, Green Light
Argraffiad newydd o nofel ddoniol wedi ei lleoli yng Nghaerdydd a Llundain am ddarlithwraig a sgriptwraig ffilm canol oed sydd bron â cholli ei phwyll wrth iddi gael ei denu gan ddiwylliant alcohol a chyffuriau, gan awdur Rancid Aluminium.
Don't Cry for Me Aberystwyth
Mae'n Nadolig yn Aberystwyth. Mae'r twristiaid wedi mynd adref. Mae'r ffilm ddiweddara am Clip y Ci Defaid ymlaen yn y sinema. Ac mae dyn oedd yn gwisgo gwisg goch a gwyn wedi cael ei lofruddio yn lôn Chinatown. Mae un gair i'w ganfod wedi ei ysgrifennu'n grynedig ar y palmant mewn gwaed: Hoffmann. Ond pwy yw Hoffmann? Dyma ddechrau ar yr antur ddiweddara' yng nghyfres 'Louie Knight'.
Grand Slam - Behind the Scenes of the Classic Film
Lluniau a thestun am ffilmio a pharatoi'r ffilm glasurol, Grand Slam a ddarlledwyd yn gyntaf 30 mlynedd yn ôl. Lluniau o'r anfarwol Hugh Griffith, Windsor Davies, Dewi Pws a Sharon Morgan.
Tipping the Velvet
Dyma nofel gyntaf Sarah Waters, sydd wedi’i lleoli ym myd adloniant Llundain yn Oes Fictoria. Mae Nan King yn arwres ryfeddol. Mae’n llawn ysbryd di-ildio a chwant, a chawn gipolwg ar ei bywyd – o gyfnod anodd fel putain a rhentlanc, i’r adeg pan oedd yn degan i uchelwr a hyd yn oed yn ymgyrchu fel sosialydd.