08

08

Clybiau newydd sbon a roddodd gyfle i fechgyn yn eu harddegau gwrdd ag enwogion, ennill gwobrau a mwynhau gweithgareddau lu!

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am y clybiau 08.

Cymunedau’n Darllen

Trefnodd trefi y Barri a Llanelli amrywiaeth eang o ddigwyddiadau sy’n seiliedig ar lyfrau yn ystod yr haf a’r hydref.

Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion am Gymunedau’n Darllen 2008.

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Wythnos Llyfr yn Anrheg

Bu sêr, enwogion a phobl ym mhob cwr o Gymru yn rhoi llyfrau’n anrhegion i’w gilydd yn ystod yr wythnos arbennig hon ym mis Gorffennaf!

Cliciwch yma i gael cipolwg ar weithgareddau'r wythnos

Themâu Misol

Rhagfyr – Y dyfodol ar ddu a gwyn


Oedolion Cymraeg
Oedolion Cymraeg

Gwe o Gelwyddau

Gwe o Gelwyddau

Delyth George

Nofel gyfoes, gyffrous sy'n llawn cynllwyn, sbin a dychan. Ond o dan yr wyneb mae 'na un thema gyson - brwydr ingol merch ifanc i ddod i delerau â gorffennol tywyll sy'n bygwth chwalu'i dyfodol hi ac eraill o'i chwmpas.

Talu'r Pris

Talu'r Pris

Arwel Vittle

Nofel afaelgar wedi ei lleoli yng Nghymru 2082, lle caiff y gwrthryfelwr Iolo ab Maredudd - sy'n chwilio am fywyd tawel wedi brwydrau llawn delfrydau ei ieuenctid - ei lusgo i fyd cynllwyn a llygredd llywodraethau milwrol, arbrofion gwyddonol genynnol a chymdeithasau tanddaearol.

Seren Wen ar Gefndir Gwyn

Seren Wen ar Gefndir Gwyn

Robin Llywelyn

Nofel sy'n defnyddio delweddau o fytholeg Geltaidd gyda chefndir Pan-Ewropeaidd iddi, a ddisgrifiwyd fel gwaith 'awdur digamsyniol ei ddawn a rhyfeddol ei gamp', gan un o'r beirniaid. Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1992. Cyhoeddwyd yn gyntaf ym 1992.

Bitsh!

Bitsh!

Eurig Wyn

Cyfrol arobryn cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, sef nofel am fachgen ifanc o'r 1960au yn olrhain dryswch ei fywyd trwy gyfrwng cyfres o ffeiliau cyfrifiadurol yn cofnodi digwyddiadau a arweiniodd at ei gwymp, yn arbennig ei berthynas â merched. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2002.

O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn

O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn

Robin Llywelyn

Ailargraffiad o gyfrol arobryn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1994, nofel serch ffantasïol yn dilyn ymchwil yr arwr am ei gariad yn wyneb nifer o anawsterau. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1994.

Sibrydion o Andromeda

Sibrydion o Andromeda

Emyr Wyn Roberts

Nofel ddifyr yn cynnwys elfennau ffuglen wyddonol. Mae Dafydd Gruffydd yn cael profiad o weld creadur arall-fydol. Mae'n rhaid i Dafydd osgoi'r awdurdodau er mwyn darganfod y gyfrinach fawr a'r gwirionedd brawychus am sefyllfa'r blaned.

Wythnos yng Nghymru Fydd

Wythnos yng Nghymru Fydd

Islwyn Ffowc Elis

Argraffiad newydd o glasur Islwyn Ffowc Elis sy'n sôn am Gymru fel y gallai fod yn y flwyddyn 2033. Mae'n dathlu hanner canmlwyddiant ers cyhoeddi'r nofel. Cynhwysir rhagair newydd gan y newyddiadurwr a'r llenor Dylan Iorwerth yn ogystal â chlawr newydd.

Melog

Melog

Mihangel Morgan

Nofel arbrofol, ddychanol a digrif am hynt a helynt perthynas anghonfensiynol rhwng dau gymeriad gwahanol iawn, Melog a Dr Jones.

Blodyn Tatws

Blodyn Tatws

Eirug Wyn

Cyfrol arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr 1998, stori ddychmygus odiaeth wedi ei gosod ym myd dyfeisgar cyfrifiaduron a sglodion meicro yr unfed ganrif ar hugain, yn cynnwys elfennau cryf o hiwmor a dychan.

Igam Ogam

Igam Ogam

Ifan Morgan Jones

Pan gaiff Tomos Ap alwad ffôn gan ei dad mabwysiedig yn ei alw adref, mae'n amau mai cynllwyn yw'r cyfan i'w orfodi i gymryd gofal o'r fferm deuluol. Ond gyda Natur ei hun yn ceisio prynu'r lle, mae ganddo fwy na dipio defaid i boeni amdano. Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a'r Cylch 2008.