Pwy sydd wedi ennill y £100 a mwy?
Cafodd Cwis Cenedlaethol Merched y Wawr ei gynnal ym mhob rhanbarth drwy Gymru gyfan nos Wener ddiwethaf, ac er i bawb fynd ati yn ddygn i ateb y cwestiynau dwy gangen a ddaeth i’r brig.
Roedd dros 230 o dimau yn cystadlu yn y cwis drwy Gymru a Changen Rhiwlas, Rhanbarth Arfon a Changen Pencader, Rhanbarth Caerfyrddin a ddaeth i’r brig ac ennill y £100 a mwy.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol am eu cefnogaeth eleni, ac am roi gwobr ychwanegol i aelodau'r tîm buddugol o docynnau llyfrau. Yn ogystal â hyn roedd nifer fawr o’r aelodau wedi dod â llyfrau Cymraeg gyda hwy i’r canolfannau ac wedi cael cyfle i’w cyfnewid er mwyn hyrwyddo darllen yn ehangach a bydd y gweddill yn cael eu rhoi yn rhodd i siopau elusen ar draws Cymru.
Cafodd y cwis Cenedlaethol sydd yn rhan bwysig o galendr blynyddol Merched y Wawr ei ail strwythuro eleni gan roi dewis o bedwar ateb i’r timau. Diolch yn fawr i’r cwis feistri sef Mary Price, Catrin Stevens, Esyllt Jones a Mererid Jones.
Bron nad oedd y cwis eleni yn efelychu'r cwis deledu poblogaidd ‘Who wants to be a Millionaire’ arwahan i’r ffaith mai can punt oedd ar gyfer yr enillwyr. Roedd y cwis yn cael ei noddi unwaith eto eleni gan y rhanbarthau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris bod y cwis ar ei newydd wedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol a bod y noson yn y gwahanol ranbarthau wedi bod yn rhai hwyliog dros ben.
"Gwych, noson benigamp! Roeddwn yn cadw cysylltiad gyda’r holl ranbarthau ar y ffôn ac erbyn deg o’r gloch y nos roeddwn yn gwybod pa ganghennau oedd wedi dod i’r brig. Roedd y cwis yn wych a phawb wedi mwynhau."
"Llongyfarchiadau i Gangen Rhiwlas a Changen Pencader am ddod i’r brig, ac i Bro Ilar Ceredigion ar ddod yn 3ydd ac i’r holl ganghennau a chlybiau eraill am gystadlu ac am fwynhau Cwis Cenedlaethol y Mudiad. Mae’n galonogol gweld bod mwy o dimau yn cystadlu bob blwyddyn," ychwanegodd.
Yn nhîm Cangen Rhiwlas oedd Lynda Jones, Nia Jones, Annes Glyn a Iona Jones ac yn nhîm Pencader oedd Deci Evans, Sallie Ballamy, Sally Jones ag Yvonne Griffiths .