Yn galw holl Grwpiau Darllen Cymru!
Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn galw ar yr holl grwpiau darllen i sefyll fyny i gael eu cyfrif. Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, a gydlynir gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn ceisio canfod cymaint o grwpiau darllen â phosibl yng Nghymru er mwyn llunio rhestr ar-lein i alluogi pobl i fewngofnodi a chanfod ymhle mae’r grŵp agosaf iddynt ymuno ag ef. Felly, sawl grŵp sydd yng Nghymru dybiwch chi? Cant? Mil? Cawn weld!
Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn yng Nghymru "Gan fod y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn ei hanterth, roeddem yn meddwl efallai y gallem ganfod faint o bobl allan fanna sydd yn aelodau o grŵp neu glwb darllen a pham fod y grwpiau hynny mor boblogaidd bellach."
"Mae darllen yn rhan fawr o fywydau llawer o bobl ac mae hefyd yn dod â phobl ynghyd i drafod pynciau a materion diddorol. Gall pawb ddehongli’r gair ysgrifenedig yn wahanol ac mae clywed safbwynt eraill yn ddiddorol. Felly, mae grwpiau darllen yn rhan annatod o gymdeithas ac rydym am gael gwybod beth sydd yn digwydd yn y rhai yng Nghymru!"
Dywedodd Melanie Brown, aelod o’r grŵp darllen a ffurfiwyd gan staff Ysgol Gynradd Ffordd Holton, Y Barri "Mae bod yn rhan o Grŵp Darllen bellach yn ddigwyddiad cymdeithasol iawn sydd hefyd yn annog pob un ohonom i ddarllen amrywiaeth ehangach o lyfrau nag y buasem yn eu dewis fel rheol, gan fod y rhan fwyaf ohonom yn cael ein harwain gan y clawr!"
Ychwanegodd Annes Glyn, aelod o Glwb Darllen Caernarfon "Dechreuwyd y clwb ym mis Mawrth 2003, ac ers hynny rydym wedi darllen casgliad anferth o lyfrau yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn nofelau, cofiannau, hunangofiannau a llyfrau taith,"
"Yr hyn sy'n wych am fod yn perthyn i glwb o'r fath yw'r cyfle i drafod â rhai sy'n 'gwirioni'r un fath' am lyfrau a darllen. Ar y llaw arall, oherwydd ein diddordebau amrywiol, mae 'na gyfle wedi bod hefyd i droi at awduron dieithr i mi a llyfrau na fyddwn wedi mentro eu hagor fel arall,"
Felly, os ydych chi, eich ffrind neu aelod o’ch teulu yn rhan o grŵp darllen, gadewch i’r Cyngor Llyfrau wybod drwy e-bostio gwybodaeth@cllc.org.uk, neu drwy fewngofnodi ar http://www.yfasnachlyfrau.org.uk i gael manylion y grwpiau yn eich ardal.