Tudalen we Clwb 08 y ‘Dreigiau Coch’ yw’r gorau!
Er mwyn dathlu’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, a gydlynir gan Gyngor Llyfrau Cymru, daeth deg o ddisgyblion Ysgol Glan Y Môr, Pwllheli, at ei gilydd i ffurfio Clwb 08 y Dreigiau Coch.
Sefydlwyd a lansiwyd y Clybiau 08 yn gynharach eleni fel rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru. Denu plant a phobl ifanc - yn enwedig bechgyn yn eu harddegau - at lyfrau, a thrwy hynny eu hannog i ddarllen, yw ei nod.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi llunio a rhedeg gwefan bwrpasol i alluogi aelodau o’r clwb greu proffiliau ar-lein o’u clybiau, i ysgrifennu blogiau rheolaidd a lanlwytho fideos o’u gweithgareddau; a chynhelir cystadleuaeth ar gyfer y dudalen we orau bob mis.
Mae’r Dreigiau Coch wedi cyfarfod nifer o weithiau a chawsant hwyl yn darllen a thrafod llyfrau. Maent wedi diweddaru eu tudalen we gyda ffotograffau, fideos a gwybodaeth am y llyfrau y maent yn eu darllen a dewiswyd eu tudalen ar-lein fel enillydd cystadleuaeth tudalen orau Clybiau 08 ym mis Hydref.
Enillodd y grŵp wobr ffantastig - deg tocyn i Barc Glasfryn, sef prif ganolfan weithgareddau Cymru ym Mhwllheli, lle gallant fwynhau cartio, beicio pedair olwyn, bowlio deg, pysgota neu saethyddiaeth.
Trwy ddefnyddio pobl enwog fel modelau rôl, yn enwedig pobl o fyd chwaraeon, fe all darllen fod yn fwy o hwyl. Mae’r clybiau yn cyfarfod mewn nifer o wahanol leoliadau diddorol, anffurfiol a chyffrous ac mae arweinwyr y clybiau yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau i ysbrydoli’r bobl ifanc i ddarllen mwy.
Mae bron 50 o glybiau gyda 10 aelod yr un ledled Cymru a byddant yn cyfarfod o leiaf chwe gwaith yn ystod yr ymgyrch.
Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cyngor Llyfrau Cymru, "Mae hon yn ffordd o ddenu meddyliau pobl ifanc a dangos iddynt bleserau a phwysigrwydd darllen. Mae darllen yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd."
"Rydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yn y grwpiau yn cael eu hysbrydoli i ddarllen mwy ac i fwynhau eu hamser yn y clybiau. Mae’n ffordd wych o ymestyn allan a’u cynnwys yn y Flwyddyn Darllen Genedlaethol."
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn rhoi llyfrau am ddim i bob grŵp. Mae’r clybiau yn cael gwahanol becynnau o lyfrau Cymraeg a Saesneg sydd yn addas ar gyfer pob grŵp oedran. Cafodd pob arweinydd clwb becynnau gwybodaeth a deunyddiau cefndir sydd yn cynnwys syniadau ac enghreifftiau rhagorol o’r math o weithgareddau y gellir eu cynnal yn y clybiau darllen. Bydd pob aelod sydd yn mynychu pob un o’r 6 cyfarfod yn cael cyfle i gystadlu am wobrau ffantastig.
Gall unrhyw un fewngofnodi i weld hanesion aelodau’r clybiau, pa lyfrau y maent yn eu darllen a pha sêr sydd yn cefnogi’r ymgyrch.
Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn dod â phobl ledled Cymru ynghyd i rannu’r pleser o ddarllen. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau eisoes fel rhan o’r Flwyddyn, gan amrywio o Wythnos Rhoi Llyfr yn Anrheg a Chymunedau’n Darllen i sefydlu 50 o glybiau llyfrau i bobl ifanc.
