Atebwyd Her y Gweinidog!
Ar ddechrau’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol, heriodd y Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, bobl Cymru i drefnu 2,008 o ddigwyddiadau a gweithgareddau darllen yn ystod y flwyddyn. Ymatebodd y cyhoedd gyda brwdfrydedd mawr ac aethant ati i drefnu amrediad eang o ddigwyddiadau i gyrraedd a phasio’r targed a osodwyd.
Dynododd Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008 yn Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd darllen a llythrennedd ymhlith pobl Cymru, a gwahoddwyd Cyngor Llyfrau Cymru i gydlynu’r flwyddyn ac i weithio gyda nifer o bartneriaid allweddol, yn enwedig y gwasanaethau Addysg a Llyfrgelloedd yn ogystal â’r sectorau gwirfoddol a busnes.
Cynhaliwyd y 2008fed digwyddiad llwyddiannus a drefnwyd ac a gadeiriwyd gan Alison Walker o Rwydwaith Fideo Cymru ym mis Tachwedd. Gwahoddwyd Bethan Gwanas, yr awdures gyfoes boblogaidd i siarad â chynulleidfa a oedd wedi’i chysylltu drwy rwydwaith fideo.
Dysgwyr Cymraeg oedd y gynulleidfa darged a chyfranogodd 75 o bobl mewn 11 stiwdio fideo-gynadledda ledled Cymru, o Goleg Llandrillo yn y gogledd i Brifysgol Caerdydd yn y de, yn y digwyddiad. Roedd y digwyddiad yn cysylltu dosbarthiadau ysgol, grwpiau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg a myfyrwyr Addysg Uwch.
Roedd Bethan yn siaradwraig ddifyr a doniol - a lwyddodd i gyfathrebu’n wych gyda’r amrywiaeth eang o grwpiau oedran a oedd yn cael eu cynrychioli. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen yng Nghymru "Rydym yn hynod o falch ein bod wedi cyrraedd y targed a bod cymaint o ddigwyddiadau wedi’u cynnal ledled Cymru yn ystod y flwyddyn. Mae’n dangos bod pawb wedi talu sylw i’r neges ac wedi lledaenu’r gair bod darllen yn hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd yn ogystal ag yn hwyl."
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Addysg "Rydw i’n falch iawn o lwyddiant y flwyddyn ac rwy’n gobeithio y gwnaiff pawb barhau â’r gwaith da y flwyddyn nesaf. Mae darllen yn un o’r sgiliau pwysicaf y mae pobl eu hangen ac yn un o sylfeini pwysicaf cyraeddiadau addysg a chyfle cyfartal."
"Roedd y Flwyddyn Darllen a’i holl weithgareddau a digwyddiadau yn gyfle gwych i dynnu sylw at bwysigrwydd darllen ac i ddathlu mwynhad a phleser y gair ysgrifenedig."
Cyfarfu’r Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt â threfnwyr y 2008fed digwyddiad, Alison Walker a Sue Mace, i’w llongyfarch ar gynnal 2008fed digwyddiad y Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Alison yw Cydlynydd Dysgu a Datblygu Rhwydwaith Fideo Cymru a Sue yw Swyddog Datblygu Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru.
Dywedodd Alison Walker "Roedd yn ddigwyddiad anhygoel ac roedd pawb a gyfranogodd ynddo wedi mwynhau eu hunain yn fawr. Roedd Bethan Gwanas yn siaradwraig ardderchog a lwyddodd i ymgysylltu â’r gynulleidfa, a bu o fudd mawr i ddysgwyr y Gymraeg."
Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru wedi dod â phobl ledled Cymru ynghyd i rannu’r pleser o ddarllen. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau fel rhan o’r Flwyddyn, gan amrywio o Wythnos Rhoi Llyfr yn Anrheg a Chymunedau’n Darllen i sefydlu 50 o glybiau llyfrau i bobl ifanc.
