Dosbarthodd Siôn Corn yr anrhegion gorau i’r ysgol a ddaeth i’r brig!

17 Rhag 2008

Cyrhaeddodd gwestai arbennig Ysgol Gynradd Trelái, Trelái, Caerdydd, ddoe. Do, daeth Siôn Corn yn gynnar er mwyn dosbarthu’r anrheg Nadolig gorau – llyfrau - i blant yr ysgol!

Cymrodd ysgolion ledled Cymru ran mewn cystadleuaeth arbennig i geisio ennill 5 pecyn enfawr o lyfrau gwerth £1,000 o bunnau'r un. Er mwyn ennill, roedd yn rhaid i ysgolion ddweud wrth Gyngor Llyfrau Cymru – sy’n cydlynu’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru - pa un oedd y digwyddiad darllen gorau a gynhaliwyd yn eu hysgol yn ystod 2008.

Cefnogodd nifer o gyhoeddwyr yng Nghymru y gystadleuaeth ardderchog hon, sy’n cloi dathliadau’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Ymunodd Gomer, Y Lolfa, Gwasg Carreg Gwalch, Cymdeithas Llyfrau Ceredigion ac Awen â Chyngor Llyfrau Cymru i gyfrannu’r gwobrau.

Mae’r pum ysgol a ddaeth i’r brig bellach wedi’u henwi a thalodd Siôn Corn ymweliad arbennig iawn ag Ysgol Gynradd Trelái; cyrhaeddodd yr ysgol i ddosbarthu’r llyfrau ar sled a drefnwyd gan Glwb y Llewod Caerffili.

‘Darllen o Gwmpas Caerdydd’ oedd thema’r digwyddiad a enillodd y brif wobr i Ysgol Trelái. Gyda phob llyfr yr oedd y plant yn ei ddarllen, roeddent yn symud o un tirnod yng Nghaerdydd i’r nesaf hyd nes yr oeddent wedi darllen o gwmpas y ddinas i gyd. Oherwydd llwyddiant y digwyddiad, mae’r disgyblion bellach yn cymryd rhan mewn menter ‘Darllen o Gwmpas Cymru’.

Ysgol Gyfun Y Coed Duon, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Ysgol Gymunedol Cwmtawe ac Ysgol Gynradd Llanfairpwllgwyngyll yw’r enillwyr eraill. Byddan nhw yn derbyn eu gwobrau yn fuan.

Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru ‘Roeddem yn hynod o falch gyda nifer y cystadleuwyr ac yn diolch i bawb am gystadlu. Ymatebodd pawb ledled Cymru gyda brwdfrydedd mawr ac aethant ati i drefnu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Rydym wedi’n plesio’n fawr!’

‘Rydym am ddiolch hefyd i’r cyhoeddwyr yng Nghymru am ymuno yn yr ymgyrch a chyfrannu eu llyfrau; rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r gwobrau i’r ysgolion. Ac i Glwb Llewod Caerffili hefyd a fu’n ddigon caredig i drefnu bod Siôn Corn yn cyrraedd Ysgol Gynradd Trelái ar eu sled, roedd y plant wrth eu bodd.’

Bydd yr wybodaeth a roddodd pob ysgol yn cael ei hychwanegu at wefan y Flwyddyn Darllen yn o fuan. At hynny, bydd digwyddiad darllen yr ysgol wedi cyfrannu at y 2,008 a throsodd o ddigwyddiadau a drefnwyd ledled Cymru eleni, mewn ymateb i’r her a osodwyd gan y Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt.

Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru wedi dod â phobl ledled Cymru ynghyd i rannu’r pleser o ddarllen. Cynhaliwyd ystod eang o weithgareddau fel rhan o’r Flwyddyn, gan amrywio o Wythnos Rhoi Llyfr yn Anrheg a Chymunedau’n Darllen i sefydlu 50 o glybiau llyfrau i bobl ifanc.

TRELAI-1427HJ