Parti Clybiau 08 – Dathlu ynghyd
Yn ddiweddar daeth hanner cant o bobl ifanc o bump o Glybiau 08 Sir Benfro ynghyd am barti yng Nghanolfan Celfyddydau Gorllewin Cymru yn Abergwaun i ddathlu eu llwyddiant wedi iddynt gymryd rhan mewn prosiect i Gymru gyfan dan nawdd rhaglen Blwyddyn Darllen Genedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ledled y sir, mae cyfanswm o saith clwb wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd oddi allan i oriau ysgol i fwynhau amrywiaeth o lyfrau a ddewiswyd yn arbennig ac sydd yn berthnasol i Gymru a’i diwylliant. Mae’r disgyblion wedi gallu cyfrannu at drafodaethau a gweithgareddau, creu eu gwefan ryngweithiol eu hunain i’w clwb, a mwynhau darllen ynghyd mewn awyrgylch anffurfiol.
O’r herwydd fe gawsant yn wobr ddiwrnod i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth a chyfle i gwrdd â grwpiau eraill o ddarllenwyr tebyg ynghyd â chyflwynwyr gwadd. Bu Ian Benfold Haywood, darlunydd o ogledd Cymru, yn rhannu ei ymchwil a’i waith celf ar gyfer One Boy’s War, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan France Lincoln. Yr oedd hyn o ddiddordeb arbennig i lawer o’r bechgyn yn y clybiau, gan eu bod yn rhyfeddu at ei ddelweddau realistig o fywyd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r camau manwl yr oedd eu hangen cyn gallu cyhoeddi. Mewn cyferbyniad, bu ‘The 2 Steves’ yn cyflwyno sioe hwyliog yn llawn miri llenyddol – a’r cyfan er mwyn dangos y gwerth a’r mwynhad y gall llyfrau eu rhoi, hyd yn oed i’r darllenwyr mwyaf anfoddog. Ar y cyfan felly cafwyd rhaglen a oedd yn apelio at y croestoriad ehangaf o’n pobl ifanc.
Yn goron ar y diwrnod llawn dychymyg hwn, a oedd yn glo teilwng i holl ymdrechion y bobl ifanc, cafwyd cinio bwffe blasus wedi’i baratoi gan y Café Celf, Abergwaun, a raffl lyfrau am ddim a drefnwyd gan Grŵp Llyfrau Plant Gorllewin Cymru. Yr oedd Chris Stephens, cydlynydd lleol y Flwyddyn Darllen Genedlaethol, wrth ei fodd â’r ymateb: ‘Mae gennym draddodiad gwych o ddarllen yma yn Sir Benfro, ac mae ymrwymiad pob clwb – yn arweinwyr ac yn aelodau – yn dangos bod llawer o bobl ifanc, os cânt y cyfle, yn dal i wirioni ar lyfrau da, ac y gellir eu hannog i wahaniaethu rhwng y llyfrau da hynny ac eraill nad ydynt cystal!’
Yr ysgolion oedd yn cymryd rhan ym mhrosiect clybiau darllen 08 oedd Ysgol Casblaidd, Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, Ysgol Gynradd Gymunedol Arberth (clybiau Cymraeg a Saesneg), Ysgol y Preseli ac Ysgol Bush, Penfro (clybiau llyfrgell ac ystafell ddosbarth).