Cynhadledd Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru 2008
Cynhaliwyd Cynhadledd Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru 2008 ar ddydd Iau 12fed Chwefror 2009 yng Nghaerdydd.
Ymhlith y siaradwyr gwadd arbennig roedd y Gweinidog dros Addysg, Jane Hutt, a roddodd anerchiad i’r gynhadledd am lwyddiannau’r flwyddyn a phwysigrwydd darllen fel blociau adeiladu i oedolion yn ogystal â phlant.
Dynododd Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008 yn Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru a gwahoddodd Gyngor Llyfrau Cymru i gydlynu’r flwyddyn ac i dynnu sylw at bwysigrwydd darllen a llythrennedd ymhlith pobl Cymru.
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Rwy’n edrych ’mlaen at annerch Cynhadledd Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008 a chael cyfle i drafod ein holl lwyddiannau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae annog plant ifanc i ddarllen o oedran ifanc iawn yn hynod o bwysig. Bydd y manteision yn amrywio o rai addysgol i rai economaidd.
Gall y gallu i ddarllen wella ansawdd bywyd pob unigolyn yn sylweddol. Yn ogystal â bod yn ddiddordeb hynod o bleserus a all danio ein dychymyg a’n cludo i leoedd y tu hwnt i’n breuddwydion, mae’r gallu i ddarllen yn agor drysau cyflogaeth a hyfforddiant. Fel oedolion, mae’n sgil y dylem barhau i’w defnyddio, gan ddatblygu ein dysgu a chadw ein meddyliau’n fywiog."
Yn ystod y Gynhadledd, cafwyd adroddiad am dri phrif gynllun Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru 2008. Sef, Wythnos Llyfr yn Anrheg, pan anogwyd pobl i roi llyfrau’n anrheg i’w gilydd; Cymunedau’n Darllen – pan ddewiswyd Llanelli a’r Barri i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau i ddenu pobl i ddarllen mwy, ac yn olaf, y Clybiau 08, a drefnwyd i annog pobl ifanc, yn enwedig bechgyn yn eu harddegau, i ddarllen.
At hynny, talodd y Gynhadledd sylw i’r partneriaethau allweddol a oedd yn sail i weithgareddau’r flwyddyn ledled Cymru - yn enwedig y bartneriaeth gydag awdurdodau lleol a’u gwasanaethau llyfrgell - yn ogystal â sectorau gwirfoddol a busnes Cymru. Er enghraifft, y bartneriaeth gyda TUC Cymru a’u llu o 1,200 o gynrychiolwyr dysgu undebau a Llamau, yr elusen sydd yn gweithio gyda phobl ifanc ddigartref a benywod yn Ne Cymru.
Yn gyffredinol, roedd Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru 2008 yn llwyddiant ysgubol a chafodd y neges y dylai pawb ddarllen mwy ei lledaenu ymhell ac yn eang, nid yn unig er mwyn gwella eu sgiliau ond er mwyn cael gwell ansawdd bywyd, fel y dangosodd yr ymchwil cyfredol i sut y gall darllen leihau lefelau straen.
Dywedodd Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, "Roedd 2008 yn ddathliad gwych o ddarllen yng Nghymru ac roedd Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o arwain yr ymgyrch a gyflwynodd y neges bwysig ledled Cymru bod darllen yn sgil hanfodol ac yn rhan annatod o fywyd bob dydd."
Daeth Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008 yng Nghymru â phobl o Gymru benbaladr ynghyd i fwynhau’r pleser o ddarllen. Cynhaliwyd amrywiaeth eang o weithgareddau fel rhan o’r flwyddyn gan amrywio o’r Wythnos Llyfr yn Anrheg, cynllun Cymunedau’n Darllen i sefydlu 50 o glybiau darllen i bobl ifanc. 
I weld rhagor o luniau, cliciwch yma.
Ffotograffydd: Richard Bosworth