Llyfrau Gwledig Gafaelgar!
Wrth i dymor y sioeau amaethyddol a’r sioeau sirol lleol gychwyn, yr ydym wedi gofyn i rai o unigolion amlycaf y byd amaeth yng Nghymru i ddweud rhywfaint wrthym am eu hoff lyfrau.
Elin Jones AC, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: "Pan oeddwn yn iau, arferwn ddarllen drwy’r amser, ond erbyn hyn, oherwydd ymrwymiadau gwaith yn bennaf, dim ond yn ystod gwyliau’r Nadolig a’r haf yr wyf yn gallu canolbwyntio ar ddarllen. Dim ond ffuglen y byddaf yn ei darllen ran amlaf, ond yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fy hoff nofel dros y blynyddoedd diwethaf fu Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis, sydd wedi’i chyhoeddi yn Saesneg hefyd erbyn hyn. Roedd cymeriadau a thafodiaith Ceredigion yn fyw iawn imi, ac felly hefyd yn The Long Dry gan Cynan Jones.
Mae Ian McEwan yn un o fy hoff awduron, ac yr wyf hefyd wedi mwynhau symlrwydd hamddenol nofelau ‘The No.1 Ladies Detective Agency’. Rwy’n hoffi cael fy llyncu’n llwyr gan linyn storïol cryf, a dydw i ddim eisiau i nofelau fy nychryn na cheisio fy addysgu. Y llyfr yr wyf yn ei ddarllen ar hyn o bryd yw The Withered Root gan Rhys Davies, a gyhoeddwyd yn rhan o gyfres lwyddiannus y Library of Wales."
Dai Davies, Llywydd NFU Cymru: "Nid wyf yn tueddu i ddarllen llawer o lyfrau fel arfer, oni bai fy mod ar wyliau, ac yna byddaf yn ceisio darllen cynifer o lyfrau â phosibl, gan lwyddo fel arfer i ddarllen tua 3-4 mewn wythnos. Rwy wir yn mwynhau dianc rhwng cloriau nofelau a llyfrau hanesyddol, ac un o’m ffefrynnau diweddar yw The Rose of Sebastopol. Mae gennyf atgofion hapus o ymlacio yn yr haul a mwynhau llyfr da gyda gwydraid o vino tinto."
Gareth Vaughan, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru: "Pan gaf gyfle i ymlacio a phori yn nhudalennau llyfr da, yr wyf yn tueddu i ddewis hunangofiannau neu gofiannau yn hytrach na ffuglen. Yr wyf yn ffafrio’n enwedig lyfrau sy’n adlewyrchu fy mywyd a’m gwaith, gan ddilyn anturiaethau Dai Jones Llanilar neu Erwyd Howells, y bugail o Bonterwyd, o amgylch cefn gwlad. Caf bleser mawr yn dychmygu Dai Jones yn cwrdd â chymeriadau cymunedau amaethyddol a gwledig Cymru, a’i sgyrsiau â hwy, ac mae’n rhyddhad mawr wedi diwrnod caled o waith."
Dyma rai o’r llyfrau amaethyddol gorau yn ôl Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n cydlynu’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru:
The Long Dry, Cynan Jones
A Rural Miscellany, Roscoe Howells
On Open Ground, Tia Jones
Village Wales, David Williams
Dictionary of the Place-names of Wales, Hywel Wyn Owen a Richard Morgan
Martha, Jac a Sianco, Caryl Lewis
Llyfr Natur Iolo, Iolo Williams
Natur y Flwyddyn, Bethan Wyn Jones
Mae Blwyddyn Darllen Genedlaethol Cymru yn dod â phobl o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu pleser darllen. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau eisoes wedi’u cynnal yn rhan o’r flwyddyn, gan amrywio o grwpiau darllen lleol i fentrau Wythnos Llyfr yn Anrheg a Chymunedau’n Darllen.