Gweindog yn Cwrdd â Darllenwyr yn y Barri
Mae’r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi ymweld â llyfrgell y Barri ym Mro Morgannwg i’w llongyfarch ar ddod yn un o Gymunedau Darllen Cymru.
Estynnwyd gwahoddiad i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud bid am ddwy wobr gwerth hyd at £20,000 i ddod yn Gymunedau Darllen fel rhan o Flwyddyn Darllen Genedlaethol 2008. Bidiau’r Barri a Llanelli a orfu.
Dros yr haf, bydd pobl sy’n byw yn y Cymunedau Darllen yn pleidleisio dros eu hoff lyfrau, ac yn y Barri mae rhaglen o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiynau ysgrifennu creadigol, ymweliadau gan awduron a gweithdai wedi eu trefnu er mwyn dathlu’r wefr o ddarllen.
Meddai Jane Hutt: "Un o bleserau mawr bywyd yw darllen llyfr da.
"Ledled Cymru, drwy ein Blwyddyn Darllen Genedlaethol, rydyn ni eisiau i’r hen a’r ifanc syrthio mewn cariad â’r gair ysgrifenedig. Er mwyn dangos ein hymrwymiad i’r ymgyrch hon, yn ddiweddar rydw i wedi dyfarnu £220,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i barhau i arwain a chyd-drefnu cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod 2008.
"Mae sgiliau darllen yn sylfaen i ddysgu drwy gydol oes. Maen nhw hefyd yn sgiliau sy’n gwella cyfleoedd gyrfa ac yn ehangu gorwelion. Mae’r Barri a Llanelli ill dau yn gwneud ymdrech fawr i annog cynifer o bobl â phosibl i weld gwerth darllen, ac rwy’n eu llongyfarch."