Y Flwyddyn Darllen Genedlaethol - Aberystwyth yn arwain y ffordd!
Profodd Aberystwyth a Cheredigion eu bod yn ganolog i’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru. Arweinir y gweithgareddau gan Gyngor Llyfrau Cymru, a leolir yn Aberystwyth, ac mae Geraint Lewis, fel hyrwyddwr darllen Ceredigion, yn ei gefnogi. Cwmni lleol, FBA, sydd hefyd yn gyfrifol am roi sylw cenedlaethol i wefan, cystadlaethau a chyhoeddusrwydd yr ymgyrch.
Eglura Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru, "Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod 2008 i’w dynodi’n Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, gwahoddwyd y Cyngor Llyfrau i gydlynu’r gweithgareddau i hyrwyddo darllen a llenyddiaeth. Rydym wedi bod yn gweithio gydag amrediad o bartneriaid ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol i dynnu sylw at fanteision darllen drwy ystod o brosiectau ac ymgyrchoedd gan gynnwys ‘Wythnos Llyfr yn Anrheg’ a ‘Cymunedau Sy’n Darllen’. Gan ein bod wedi’n lleoli yn Aberystwyth, rydym wedi’n calonogi o weld yr holl frwdfrydedd dros bob un o weithgareddau’r flwyddyn ledled Ceredigion."
Fel rhan o’r prosiectau cenedlaethol a lleol a gynhaliwyd, bu enwogion fel Guto Harri, Iolo Williams, Angharad Mair a Max Boyce yn dewis ac yn rhoi llyfrau’n anrheg i’w ffrindiau, lluniwyd grwpiau darllen lleol; enwebwyd dwy Gymuned Sy’n Darllen a chynhaliwyd llu o weithgareddau o dan arweiniad llyfrgelloedd. Yn ystod misoedd olaf y Flwyddyn, bydd Clybiau 08 yn cael eu sefydlu i annog ieuenctid yn eu harddegau, yn enwedig bechgyn, o Gymru benbaladr i ymuno â chlybiau darllen, i gyfarfod ag enwogion ac i geisio ennill gwobrau sy’n gysylltiedig â darllen.
Enwebwyd Geraint Lewis, awdur a chyn Gyfarwyddwr Cynorthwyol dros Addysg a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Ceredigion yn Hyrwyddwr Darllen cyntaf y Flwyddyn. Yn ei rôl, bydd yn ysbrydoli eraill i godi llyfr er mwyn i hyd yn oed fwy o bobl fwynhau’r pleser o ddarllen.
Dywedodd, Geraint "Rwyf yn hynod o falch o gael fy enwi’n Hyrwyddwr Darllen. Bu llyfrau’n ganolog yn fy mywyd a fy ngyrfa erioed, yn enwedig yn ystod fy nghyfnod yn Llyfrgellydd, a bellach fel awdur. Mae’n fraint fawr cael bod yn rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol sydd mor hanfodol o ran helpu i ddatblygu sgiliau, ehangu gorwelion a hefyd greu diddordeb cyffredinol mewn syniadau newydd - yn enwedig ymhlith pobl ifanc."
Yn cefnogi’r gweithgaredd mae’r Cwmni CC, Marchnata a Dylunio, FBA, a benodwyd i arwain yr ymgyrch gyhoeddusrwydd yng Nghymru. Dywed Sue Balsom, Rheolwr Gyfarwyddwr FBA, "Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gyfrannwr pwysig at economi Canolbarth Cymru ac i’r sector creadigol. Ynghyd â’r Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Cymru, mae Aber yn ffwlcrwm dysg a busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Fel cwmni lleol, roedd ein tîm ni yn hynod o falch o gael ei ddewis ar gyfer y cyfrif pwysig hwn."