Lansiad y llyfrau buddugol ar gyfer Dewis Llyfr Difyr ym Mro Morgannwg

23 Medi 2008

Dros y chwe wythnos ddiwethaf, mae trigolion y Fro wedi bod yn pleidleisio i ddewis pa ddau lyfr y byddai orau ganddynt eu darllen yn ystod mis Hydref. Datgelodd y Cynghorydd Hampton deitlau’r llyfrau buddugol ar stondin farchnad yn y Barri oedd wedi’i threfnu gan staff llyfrgell i dynnu sylw at y llyfrau. Wrth gyhoeddi enwau’r enillwyr, dywedodd y Cynghorydd Hampton "Bu’n orchest fawr i’r Barri gael ei dewis yn un o ddwy Gymuned Ddarllen Cymru. Bwriad sylfaenol cymunedau darllen yw bod pawb yn darllen ac yn trafod yr un llyfrau ar yr un pryd ac mae dau gystadleuydd gwirioneddol dda wedi dod i’r brig yn y bleidlais, a’r ddau’n ffefrynnau amlwg ymhlith pobl y Fro."

Y ddau lyfr buddugol yw The Kite Runner gan Khaled Hosseini a Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Mae’r gwasanaeth llyfrgell yn y Fro yn awr yn herio pawb i ddarllen un o’r llyfrau neu’r ddau ohonynt dros yr wythnosau nesaf, ac er mwyn hwyluso hyn byddant yn sicrhau bod llond gwlad o gopïau ychwanegol o’r llyfrau ar gael. Mae cyfieithiad Saesneg o gyfrol Caryl Lewis ar gael hefyd.

Yn ôl Chris Edwards, sy’n llyfrgellydd, "Gwelsom gryn ddiddordeb yn y rhestr fer o ddeuddeg llyfr a gwyddom am lawer o bobl sydd wedi ceisio darllen yr holl lyfrau ar y rhestr fer er mwyn dewis eu ffefryn. Yr ydym yn disgwyl i gannoedd yn rhagor o bobl ddarllen y llyfrau buddugol dros yr wythnosau nesaf ac, yn ein barn ni, ni fyddant yn cael eu siomi gan y dewis."

Bydd llyfrgelloedd yn y Fro yn hyrwyddo’r ddau lyfr trwy gydol mis Hydref a byddant yn cynnal Dathliad Darllen Difyr y Barri dros benwythnos 31 Hydref i 2 Tachwedd. Nod y penwythnos fydd tynnu sylw at y pleser sydd i’w gael wrth ddarllen. Mae nifer o awduron amlwg wedi’u gwahodd i drafod eu gwaith. Bydd y penwythnos yn cael ei lansio gan y darlledwr Chris Needs a cheir ymddangosiadau gan Caryl Lewis – awdures y gyfrol fuddugol Martha, Jac a Sianco - Catrin Collier, Bernard Knight, Tony Curtis, Phil Carradice, Bethan Gwanas, Mererid Hopwood, Sheenagh Pugh ac eraill. Ymhlith y digwyddiadau eraill ceir sesiynau adrodd stori a gweithdai ar sut i ddarlunio, sut i ysgrifennu a sut i gynllunio clawr llyfr.

Ennillwyr Barri