Lansio’r Clybiau 08

25 Medi 2008

Ddydd Iau, 25 Medi, lansiwyd menter newydd fel rhan o’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru, sef y Clybiau 08. Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Pêl-droed Gôl, Caerdydd, yng nghwmni awduron ac un o sêr y byd pêl-droed.

Nod y Clybiau 08, sy’n cael eu cydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru, yw denu plant a phobl ifanc – a bechgyn yn eu harddegau yn enwedig – at lyfrau a’u hannog i ddarllen. Bydd y clybiau’n gwneud darllen yn weithgaredd mwy hwyliog drwy ddefnyddio enwogion, yn enwedig sêr o fyd chwaraeon, fel enghreifftiau o bobl sy’n mwynhau darllen. Bydd y clybiau’n cwrdd mewn amrywiaeth o leoliadau difyr, anffurfiol ac ysgogol, ac mae’n bosibl y bydd rhai o sêr y byd chwaraeon neu’r awduron yn bresennol mewn rhai cyfarfodydd er mwyn ysbrydoli’r aelodau ifanc i ddarllen mwy.

Bydd bron i 50 o glybiau ledled Cymru, gyda phob clwb yn cynnwys 10 aelod. Bydd y clybiau’n cwrdd o leiaf chwe gwaith yn ystod yr ymgyrch, ac mae oedran yr aelodau’n amrywio o flwyddyn ysgol 5 i flwyddyn ysgol 8.

Yn bresennol yn y lansiad roedd pobl ifanc o Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Plasmawr ac Ysgol Glantaf, yr awduron llyfrau plant Paul Manship ac Ion Thomas ac – yn bwysicaf oll – un o sêr pêl-droed yr Adar Gleision, sef Peter Enckelman o Glwb Pêl-droed Caerdydd.

Yn ôl Delyth Humphreys, Cydlynydd y Flwyddyn Darllen Genedlaethol ar ran Cyngor Llyfrau Cymru, "Mae hon yn fenter wych i ddal sylw pobl ifanc a dangos iddynt pa mor bleserus a phwysig yw darllen. Mae darllen yn sgil sylfaenol sy’n hanfodol i fywyd bob dydd."

"Yr ydym yn gobeithio y bydd y bobl ifanc yn y grwpiau yn cael eu hysbrydoli i ddarllen mwy ac y byddant yn mwynhau yr amser y byddant yn ei dreulio yn y clybiau. Mae’n ffordd wych o apelio atynt a’u cynnwys yn y Flwyddyn Darllen Genedlaethol."

Bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn rhoi llyfrau am ddim i bob grŵp. Bydd y clybiau’n cael gwahanol becynnau o lyfrau i apelio at yr holl grwpiau oedran, o ddisgyblion cynradd i rai uwchradd, yn Gymraeg a Saesneg. Rhoddir pecynnau gwybodaeth a deunyddiau cefndirol i arweinwyr y clybiau, a bydd y rhain yn cynnwys syniadau ac enghreifftiau rhagorol o’r math o weithgareddau y gallant eu cynnal yn y clybiau darllen. Bydd pob aelod sy’n bresennol ym mhob un o’r chwe chyfarfod yn cael cyfle i ennill gwobrau arbennig.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn darparu gwefan arbennig lle gall aelodau’r clybiau greu proffiliau o’u clybiau ar-lein, ysgrifennu blogiau yn rheolaidd a llwytho fideos o’u gweithgareddau. Gall unrhyw un ymweld â’r wefan i weld beth y mae’r aelodau yn ei wneud, pa lyfrau y maent yn eu darllen a pha sêr sy’n cefnogi’r ymgyrch, a hynny ar www.blwyddyndarllengenedlaethol.org.uk/08

Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn dod â phobl ledled Cymru at ei gilydd i rannu ym mhleser darllen. Cynhaliwyd ystod eang o weithgareddau eisoes yn rhan o’r Flwyddyn, gan amrywio o grwpiau darllen a drefnwyd yn lleol i gynlluniau Wythnos Llyfr yn Anrheg a’r Cymunedau Darllen.

Lansiad_1917