Canlyniadau Cymuned Llanelli’n Darllen
Cyhoeddodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru, Jane Hutt, enwau enillwyr pleidlais Cymuned Llanelli’n Darllen mewn seremoni a gynhaliwyd yn llyfrgell y dref nos Fawrth 23 Medi. Y cyfrolau buddugol yw Coeliwch neu Beidio gan Roy Davies a Before the Last All Clear gan Ray Evans.
Bu darllenwyr yn pleidleisio am eu hoff lyfrau o restr fer o 10 teitl – pum llyfr Cymraeg a phum llyfr Saesneg – a bydd yr enillwyr yn cael eu hyrwyddo ledled y gymuned mewn ffyrdd gwahanol ac anarferol yn ystod yr hydref.
Y llyfrau ar y rhestr fer oedd Cofio Grav gan Keith Davies, Borley Cymru gan J. Towyn Jones, Mae Llygaid gan y Lleuad gan Elin Llwyd Morgan, Coeliwch neu Beidio gan Roy Davies, Cofio Pwy Ydw I gan Huw Ceredig, Persons Living or Dead gan Nia Williams, The Hardest Test gan Scott Quinnell, A Funny Kind of Love gan Siân Lloyd, Before the Last All Clear gan Ray Evans a Staying Strong gan Robin McBryde.
Dewiswyd Llanelli yn un o ddim ond dwy dref i fod yn ‘gymuned ddarllen’ yng Nghymru mewn ymgyrch a oedd yn cael ei hyrwyddo gan Gyngor Llyfrau Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, a’i gweinyddu drwy gyfrwng gwasanaethau llyfrgell yr awdurdodau lleol. Mae’n rhan o’r ymgyrch i annog mwy o bobl i ddarllen yn ystod 2008, sy’n Flwyddyn Darllen Genedlaethol.
Yn ôl Rheolwr Llyfrgelloedd a Threftadaeth Cyngor Sir Gâr, Dewi Thomas: "Yr ydym ni’n hynod o falch fod Llanelli yn un o ddim ond dwy dref yng Nghymru i gael eu dewis yn Gymunedau Darllen er mwyn dathlu’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol. Yr oeddem yn arbennig o falch fod Ray Evans wedi gallu cymryd rhan yn y seremoni gan ei fod ar ymweliad â Phrydain ar y pryd. Mae’r gystadleuaeth hon yn un o’r ffyrdd yr ydym yn hybu darllen o fewn y gymuned ac yr ydym wrth ein bodd â’i llwyddiant."
Roedd rhaglen lawn y noson yn cynnwys gwybodaeth am y cynllun gan Gyngor Llyfrau Cymru, cyflwyniad gan yr aelod dros addysg ar y bwrdd gweithredol, sef y Cynghorydd Ieuan Jones, a darlleniadau dethol o’r llyfrau buddugol yn Gymraeg a Saesneg gan Delyth Nicholas a Garry Nicholas.
Bydd rhaglen o weithgareddau yn canolbwyntio ar y llyfrau yn cael ei chynnal dros y ddeufis nesaf. Bydd hyn yn cynnwys rhoi copïau o’r llyfrau mewn mannau anarferol i hyrwyddo’r teitlau ac i hybu darllen yn ystod Blwyddyn Darllen Genedlaethol 2008.
Mae hanner miliwn a rhagor o lyfrau ar gael yn 31 llyfrgell a phum llyfrgell symudol Sir Gâr, ynghyd â cherddoriaeth, ffilmiau, llyfrau llafar, pwyntiau gwybodaeth gyhoeddus a gwybodaeth am gymunedau lleol. Gallwch gael mynediad i’r rhyngrwyd ym mhob un o’r cyfleusterau, a cheir rhagor o wybodaeth ar www.carmarthenshire.gov.uk