Darllenwch eich ffordd i well iechyd!
Gyda’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn ei hanterth, efallai nad yw pawb yn ymwybodol o effaith aruthrol darllen ar wella iechyd a lles yr unigolyn. Gall ymgolli rhwng cloriau llyfr da fod yn ddull o ymlacio, yn ddihangfa ac yn gymorth i unigolion reoli lefelau straen a phryder, sydd yn ei dro yn cael effaith debyg i ymarfer y corff.
Mae pawb eisoes yn ymwybodol y gall darllen wella sgiliau ieithyddol, yn enwedig o ran ehangu geirfa a gwella sillafu, ac mae hynny’n cael ei hwyluso eleni gan y Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru a gydlynir gan Gyngor Llyfrau Cymru. Fodd bynnag, mae darllen hefyd yn bwysig i’ch iechyd, gan y gall anghofio eich pryderon a’ch gofidiau trwy ddarllen llyfr da am ychydig funudau yn unig gael effaith therapiwtig a pharhaol.
Oherwydd bod darllen yn ddull hynod o effeithiol o ymdrin â phroblemau iechyd, yn enwedig salwch meddwl, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol y Deyrnas Unedig wedi ffurfio nifer o bartneriaethau gyda sefydliadau fel llyfrgelloedd er mwyn cynorthwyo cleifion. Arweiniodd Cymru’r ffordd trwy lansio cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru yn 2005 wedi iddo gael ei gyflwyno’n llwyddiannus yng Nghaerdydd. Efelychwyd y cynllun wedyn mewn nifer o ardaloedd ar draws y DU. Mae’r hyn a elwir yn ‘fibliotherapyddion’ yn cydweithio â gweithwyr iechyd sydd yn rhagnodi llyfrau hunangymorth o safon uchel sy’n cynnig triniaethau tebyg i’r hyn y buasai cleifion yn ei gael petaent yn cael triniaeth gwnsela.
Dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell: "Gall darllen fod yn help i ddeall pob math o broblemau iechyd; mae’n rhoi gwybodaeth ac awgrymiadau i bobl ar ddulliau o reoli eu salwch yn well."
"Er enghraifft, ym maes salwch meddwl, os oes gennych broblemau gellir cael llyfrau sydd yn rhoi cyngor a chefnogaeth ar bob math o bynciau, o iselder a phryder i reoli dicter. Yng Nghymru, gall eich meddyg teulu ragnodi ystod o lyfrau a argymhellwyd gan arbenigwyr yn eu maes, a gallwch eu benthyca am ddim o’ch llyfrgell leol."
Gall pob math o lyfrau helpu pobl i ymlacio, gan gynnwys nofelau, llyfrau ffeithiol a bywgraffiadau, yn ogystal â llyfrau hunangymorth, hunanwella, iechyd, ysgogol ac addysgiadol.
Felly, gyda’r dyddiau’n byrhau ar ddiwedd yr haf fel hyn, mae’n amser delfrydol i godi llyfr da ac ymgolli mewn byd gwahanol ymhell o bwysau a gofidiau bywyd bob dydd. Cofiwch, mae canfod ffyrdd effeithiol i liniaru straen yn eich bywyd yn un o elfennau allweddol cadw’n iach a byw’n hir.
Mae’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol yng Nghymru yn dod â phobl ledled Cymru at ei gilydd i rannu ym mhleser darllen. Cynhaliwyd ystod eang o weithgareddau eisoes yn rhan o’r Flwyddyn, gan amrywio o grwpiau darllen a drefnwyd yn lleol i gynlluniau Wythnos Llyfr yn Anrheg a’r Cymunedau Darllen.
